Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MA Rheolaeth yn y Celfyddydau: Archwilio’r Llwybr Cynhyrchu Creadigol

Cyn ei brosiect cerddorol yn cydweithio â myfyrwyr eraill ar draws y Coleg, buom yn siarad â’r myfyriwr MA Rheolaeth yn y Celfyddydau, Joshua Marchant, am ei daith o gyfarwyddo theatr yn Texas i astudio’r llwybr Cynhyrchu Creadigol yn CBCDC.

Pam astudio’r llwybr Cynhyrchu Creadigol?

Dan arweiniad y gweithiwr rheolaeth yn y celfyddydau proffesiynol, Karen Pimbley, mae llwybr Cynhyrchu Creadigol MA Rheolaeth yn y Celfyddydau wedi’i anelu at y rheini sy’n dyheu am fod yn gynhyrchwyr neu sydd am fireinio eu crefft. Gyda hyfforddiant galwedigaethol a chyfnodau ar leoliad mae’r cwrs yn galluogi myfyrwyr i dreiddio i fyd cynhyrchu proffesiynol, gyda’r pwyslais ar feddwl yn annibynnol ac ymgysylltu’n rhagweithiol, gan rymuso myfyrwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu dyfodol yn y diwydiant celfyddydau.

O gyfarwyddwr i gynhyrchydd…

Mae Josh yn parhau â’i stori: 

Ar ôl gweithio ar fy swydd ddelfrydol fel cyfarwyddwr ar gyfer rhaglen celfyddydau theatr i blant mewn ysgol uwchradd yn Houston am dros ddegawd, roeddwn i eisiau ymestyn fy hun a dod yn gynhyrchydd. 

Syrthiais mewn cariad â’r Coleg ar ôl dod yma a phrofi sŵn byrlymus y myfyrwyr yn gweithio, canu a chydweithio. Roeddwn i eisiau bod yn rhan o’r wefr honno - roedd pawb mor gyfeillgar a chroesawgar, roeddwn i’n teimlo’n gartrefol ar unwaith. 

Gwnaeth y cwrs Rheolaeth yn y Celfyddydau argraff arnaf gyda’i hanes cyflogaeth 100% ers 2013 (myfyrwyr yn sicrhau swyddi cysylltiedig o fewn tri mis i raddio) a’i ffocws ar hyfforddiant galwedigaethol. 

Roedd y llwybr Cynhyrchu Creadigol yn gweddu’n iawn i mi, gyda phartneriaethau a chysylltiadau diwydiant y Coleg, yn ogystal â’i raddedigion Cynhyrchu Creadigol, cyfleoedd i gynhyrchu fy mhrosiectau fy hun, a chyfle i brofi ystod o gyfleoedd yn y theatr a’r celfyddydau.  

‘Roeddwn i wastad yn credu bod angen cefnogaeth ariannol sylweddol arnoch i ddod yn gynhyrchydd a doedd gen i ddim syniad ble i ddechrau ar fy mhen fy hun. Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen arnaf i ddilyn y llwybr cynhyrchu a oedd fel petai’n anodd yn fy ngwlad enedigol.

Rwy’n gweld y sector celfyddydau yn y DU yn llawer mwy croesawgar, amrywiol a chreadigol – mae’r profiadau theatr amrywiol, o sioeau cerdd Cymreig yma, i gynyrchiadau arloesol dros y dŵr ym Mryste, wedi bod yn sioc ddiwylliannol adfywiol’
Joshua MarchantMyfyriwr MA Rheolaeth yn y Celfyddydau

Modiwlau sy’n cwmpasu holl sgiliau hanfodol rheolaeth yn y celfyddydau

A minnau’n dod o America, doedd gen i ddim syniad am gymhlethdodau’r sector celfyddydau yng Nghymru, ac mae cael fy nhrochi’n llwyr ynddo wedi bod yn wefr. Mae modiwlau ar gyllid, rheolaeth ac arweinyddiaeth wedi bod yn hollbwysig wrth bontio’r bwlch rhwng polisïau America a Chymru, gan roi’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i mi allu llywio’r diwydiant yn hyderus.

Llwybr o gydweithio a chyfleoedd

Mae pedwar ohonom ar y llwybr Cynhyrchu Creadigol, pob un o gefndir gwahanol yn y celfyddydau. Mae fy nghyd-fyfyrwyr yn dod ag elfennau gwahanol i’n hastudiaethau: mae Ben yn angerddol am roi gwedd fodern i gerddoriaeth glasurol, mae Georgia yn ymroddedig i uno’r gymuned ddawns yng Nghymru, a Guinevere yn gwneud i farddoniaeth a dawns ddod ynghyd i siarad am bethau pwysig o fewn diwylliant. Cawsom ein taflu yn syth i mewn i brosiect creadigol o’r diwrnod cyntaf. 

Mae’r llwybr hwn yn annog cydweithio a rhwydweithio ac mae’n rhoi cyfleoedd i gysylltu â gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Ar gyfer y rhaglen fentora cefais fy mharu â Jack Robertson, sy’n gweithio ym maes theatr gerdd fasnachol yn y West End. Rydw i wedi cael mewnwelediadau gwerthfawr i fanylion y diwydiant ac wedi derbyn arweiniad personol ar fy mhrosiect sydd i ddod yn fuan. 

REPCo: Bod yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd

Mae REPCo (Repertory by Entrepreneurial Performers Company), cynllun cwmni menter myfyrwyr unigryw y Coleg, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn chwarae rhan hanfodol mewn dyrannu arian i fentrau myfyrwyr, gan eu grymuso i gynhyrchu ac arddangos eu hymdrechion artistig. 

Ar gyfer fy mhrosiect cynhyrchais ddarlleniad wedi’i lwyfannu o ‘A Man of No Importance’, darn theatrig sy’n cynnig y cyfle i gloddio i’r cymhlethdodau deinameg cymunedol a ddarlunnir yn y stori. 

Mae cael y cyfle i gydweithio â myfyrwyr o wahanol gyrsiau ar y cynhyrchiad ensemble hwn wedi bod yn uchafbwynt gwirioneddol, gan fy ngalluogi i archwilio cyfarwyddo a chynhyrchu ar raddfa fwy. 

‘Mae dod â’n prosiectau’n fyw yn brofiad boddhaus iawn, gan fy ngwneud yn fwy hyblyg, ehangu fy nghyfleoedd, ac mae wedi fy ngwneud yn fwy angerddol fyth am gynhyrchu creadigol.

Mae’r darn ensemble hwn, sy’n canolbwyntio ar gymuned yn Iwerddon y 1960au, yn cynnwys ymdeimlad gwirioneddol o gydweithio o fewn y gymuned, sy’n crynhoi’r hyn yw CBCDC.’
Joshua MarchantMyfyriwr MA Rheolaeth yn y Celfyddydau

Trochi yn y broses gynhyrchu

Mae fy lleoliad gwaith presennol fel Cynorthwyydd Cynhyrchu yn CBCDC wedi rhoi golwg uniongyrchol i mi ar gymhlethdodau cynhyrchu theatrig. Mae gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant, megis Pennaeth Cynhyrchu CBCDC Rhian Jones a’r Rheolwr Cynhyrchu Bob Holmes, ar gynyrchiadau fel ‘Carrie the Musical’, wedi helpu fy sgiliau trefnu yn fawr. O fynd i gyfarfodydd cynhyrchu i gynorthwyo gyda rihyrsals, rydw i wedi trochi’n llwyr yn y broses gynhyrchu, gan gael mewnwelediad i bob agwedd ar ddod â chynhyrchiad theatrig yn fyw.

Mae’r posibiliadau’n fel pe baent yn ddiderfyn

Mae cydbwysedd perffaith sy’n caniatáu amser ar gyfer creu cysylltiadau, cynnal ymchwil, ac mae’r ffocws ar gymuned a chydweithio o’r diwrnod cyntaf yn creu amgylchedd cefnogol lle mae prosiectau’n ffynnu. 

Mae’r cwrs hwn wedi tanio fy angerdd i gofleidio pob cyfle a ddaw i mi.’ 

‘Yr hyn sy’n fy nghyffroi fwyaf yw ansicrwydd y dyfodol, gan wybod y bydd y cysylltiadau a’r sgiliau rydw i wedi’u meithrin yma yn fy ngrymuso i ddilyn unrhyw lwybr rydw i am ei wneud. Boed hynny’n gynhyrchu yn Llundain neu yng Nghaerdydd, neu’n cyfrannu at sefydliadau sy’n siapio’r diwydiant, mae’r posibiliadau’n teimlo’n ddiderfyn.’
Joshua MarchantMyfyriwr MA Rheolaeth yn y Celfyddydau

Storïau eraill