Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Llwybrau gyrfa: Rheoli Cerddorfaol

Mae Rheoli Cerddorfaol yn un o dri llwybr ar gwrs MA Rheolaeth yn y Celfyddydau y Coleg.

Pam astudio Rheoli Cerddorfaol?

Buom yn siarad â dau fyfyriwr presennol am eu profiad o’r cwrs hyd yn hyn, a sut mae’n eu paratoi ar gyfer gweithio yn y diwydiant.

Dechreuodd diddordeb Hannah Staniford mewn rheoli cerddorfaol yn ystod ail flwyddyn ei gradd cerddoriaeth, yn astudio yma yn y Coleg.

'Gweithiais ar brosiect REPCo a dyna wnaeth i mi benderfynu beth roeddwn i eisiau ei wneud. Dros y ddwy flynedd nesaf cefais gyfleoedd i gysgodi, a chyfleoedd rheoli cerddorfaol.

Dewisais y cwrs oherwydd i mi sylweddoli, er nad oedd perfformio yn addas i mi, rwy’n cael gwefr wrth drefnu a chynnal sioe.’
Helen Phipps

Fe wnaeth Helen Phipps hefyd ei gradd yn y Coleg, ond fel Hannah sylweddolodd nad oedd hi wir eisiau dod yn chwaraewr proffesiynol.

‘Dechreuais archwilio pethau, ac oddi yno dilynais y modiwl Rheolaeth yn y Celfyddydau i weld a oeddwn yn ei hoffi, ac roeddwn. Roedd pob agwedd ohono yn ddiddorol, ac oddi yno roeddwn i’n gwybod beth roeddwn i eisiau ei wneud.

'Gwnes fy ymchwil a hoffi’n fawr elfennau ymarferol y cwrs hwn, gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant ar leoliadau gwaith, felly roeddech chi’n cael profiad go iawn.’
Helen Phipps

Dysgu drwy Brofiad

‘Yn y tymor cyntaf byddwn yn cael dosbarth Rheoli Cerddorfaol bob dydd Llun.

Arweinir y modiwl gan Michael Garvey (arferai fod yn gyfarwyddwr Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC (BBC NOW) a bydd siaradwyr gwadd yn dod i mewn hefyd’ eglurodd Hannah. ‘Dydw i ddim yn meddwl y gallwch chi gael hynny yn unman arall) yn y wlad.’

Hannah yn ei chyngerdd Repco ar lwyfan Dora Stoutzker

Esboniodd Helen fod llawer o’r dysgu wedi dod o’i sesiynau un i un gyda mentor drwy gydol tymor y Gwanwyn pan oedd yn gweithio ar gynllunio cyngerdd.

‘Mae’r sesiynau wedi bod yn ddefnyddiol iawn oherwydd gallwch drafod beth sy’n mynd yn dda, a chael cyngor, sy’n caniatáu i ni i ddysgu o’r broses.’
Helen Phipps

Dysgodd lawer hefyd o’r prosiect yr oedd yn rhaid iddi ei wneud yn y modiwl hwn, gan gydweithio â’r myfyriwr cyfansoddi ac arwain Dane Madrigal i gynnal cyngerdd yn eglwys San Pedr yn y Rhath, a oedd yn canolbwyntio ar gerddoriaeth gysegredig Americanaidd.

Perfformiad Repco ar lwyfan Dora Stoutzker

Daeth Helen â cherddorfa siambr a chôr ynghyd ar gyfer y cyngerdd, gan drefnu ymarferion a dod â’r cyfan i’r llwyfan.

‘Hwn oedd y tro cyntaf i mi gynnal cyngerdd. Cafwyd adborth cadarnhaol iawn gan y gynulleidfa ac roedd yn braf iawn ei glywed.'
Helen Phipps

Roedd yn gymaint o brofiad dysgu. Rydw i’n gwybod nawr beth sydd ddim yn gweithio, beth yw’r ffordd orau o wneud y gwaith, felly rydw i’n rhoi’r hyn rydw i wedi’i ddysgu ar waith, gan wneud prosiect ar gyfer REPCo.’

REPCo yw cwmni celfyddydau a arweinir gan fyfyrwyr y Coleg, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr gynnig sioe eu hunain ac yna ei chynnal, gan roi profiad ymarferol gwerthfawr.

Cynhaliodd Hannah ei phrosiect Rheoli Cerddorfaol yn ystod gŵyl REPCo y Gwanwyn.

‘Roedd y cynllunio yn waith caled, ond aeth y cyngerdd yn dda iawn ar y diwrnod. Dywedodd uwch aelodau’r tîm wrthyf ei fod wedi’i wneud yn broffesiynol, a dywedodd y tîm technoleg fod yr amserlen a greais wedi helpu popeth i redeg mor esmwyth.’
Hannah Staniford

Meithrin profiad trwy leoliadau gwaith

Yn nhymor y Gwanwyn, mae myfyrwyr Rheolaeth yn y Celfyddydau llawn amser yn mynd ar leoliad gwaith 90 awr.

Bu Helen yn gweithio gyda Naomi Bailey, Rheolwr Cerddorfa ac Ensemble y Coleg.

‘Roedd hynny’n werthfawr iawn, dysgais lawer o bethau ymarferol. Eglurodd Naomi bopeth mor glir a strwythurodd y lleoliad fel fy mod yn gwneud popeth ar fy mhen fy hun erbyn y diwedd.’
Hannah Staniford

Gweithiodd Hannah gyda Sinfonia Cymru, prif gerddorfa dan 30 oed y DU, a chanfod ei bod yn mwynhau gweithio mewn sefydliad llai o faint.

‘Roeddwn i wrth fy modd fy mod yn cael bod yn rhan o bob elfen o’r broses, ond rydw i hefyd yn edrych ymlaen at fynd i weithio gyda BBC NOW ar gyfer fy lleoliad Haf gan ei fod yn sefydliad mwy a gwahanol.'

"I chose to go there because it focuses on other areas within the orchestra – education, marketing, broadcasting – and I can choose to go wherever I want, which is going to be exciting."
Hannah Staniford Similarly, Helen chose her placement with Bath Festival Orchestra to get a very different experience. ‘I’ll be remote working, with trips to London and Bath. It’s orchestral management, but I’ll also be covering education, marketing and finance.’

Similarly, Helen chose her placement with Bath Festival Orchestra to get a very different experience.

‘I’ll be remote working, with trips to London and Bath. It’s orchestral management, but I’ll also be covering education, marketing and finance.’

‘Mae’r cwrs yn sicr yn eich paratoi ar gyfer y diwydiant,’ meddai Hannah. ‘Yn enwedig os ydych chi’n gwneud y lleoliadau rheoli cerddorfaol. Mae’n rhoi popeth sydd ei angen arnoch i gerdded yn syth i mewn i swydd.’
Hannah Staniford

Diolch i Hannah a Helen am siarad â ni am eu profiad ar y cwrs, a dymunwn y gorau i chi ar eich lleoliadau yn nhymor yr Haf.

Storïau eraill