Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Toks Dada: Pennaeth Cerddoriaeth Glasurol newydd Canolfan Southbank

Cyfle i gwrdd â Phennaeth Cerddoriaeth Glasurol newydd Canolfan Southbank!

Y mis hwn bydd Toks Dada, a raddiodd o’r Coleg gyda gradd mewn Cerddoriaeth ac ôl-radd mewn Rheolaeth yn y Celfyddydau, ac sy’n eirolwr brwd dros ddenu cynulleidfaoedd newydd ac ymgysylltu â phobl ifanc, yn dechrau ar ei rôl newydd i ddechrau ‘ailddyfeisio dyfodol cerddoriaeth glasurol.’

Astudiodd Toks, sy’n rhaglennwr, curadur a chynhyrchydd cerddoriaeth glasurol, fiola yma yn CBCDC gan raddio yn 2013. Aeth ymlaen i astudio’n rhan amser ar y cwrs ôl-radd Rheolaeth yn y Celfyddydau a graddio yn 2016.

‘Nid gor-ddweud yw datgan mai fy nghyfnod yn CBCDC yw blynyddoedd mwyaf ffurfiannol fy mywyd. Mae’r daith ddeng mlynedd i gael fy mhenodi’n Bennaeth Cerddoriaeth Glasurol yng Nghanolfan Southbank, a’r profiadau a gefais ar hyd y ffordd, i gyd yn deillio o’m cyfnod yn y Coleg.

Er mai fel chwaraewr fiola yr oeddwn yn astudio, rhoddodd y Coleg y cyfle i mi ddatblygu’r sgiliau rydw i nawr yn eu defnyddio yn fy rôl newydd; boed hynny wrth sefydlu a chynnal cwmni comisiynu a chynhyrchu cerddoriaeth, arwain REPCo (menter arloesedd myfyrwyr y Coleg) neu eistedd ar fwrdd Sinfonia Cymru (prif gerddorfa’r DU ar gyfer rhai dan 30 oed). Fel y dywedais unwaith: chwarae eich offeryn yw’r lleiaf y dylech ei wneud.’
Toks DadaPennaeth Cerddoriaeth Glasurol, Canolfan Southbank

Dyma Toks yn sgwrsio am y Coleg yn ein fideo New Era yn 2011 pan oeddem newydd agor ein cyfleusterau newydd o’r radd flaenaf:

‘Weithiau mae’n teimlo ein bod eisoes yn y proffesiwn.

…Mae rhywbeth yn yr aer, yn yr awyrgylch, sydd bron yn hudol.
Nid yw’n teimlo fel petaech yn mynd i astudio, mae’n teimlo fel eich bod yn mynd i wneud yr hyn rydych wrth eich bodd yn ei wneud. A phan fyddwch yn gadael, byddwch yn parhau i wneud union yr un peth …

Alla’i ddim esbonio pa mor rhyfeddol fu’r profiad. Mae angen i chi ddod yma a bod fel sbwng, ac amsugno popeth.
Chwarae eich offeryn yw’r lleiaf y dylech ei wneud.’
Toks DadaPennaeth Cerddoriaeth Glasurol, Canolfan Southbank

Mae gan Toks sawl llinyn i fwa ei fiola: Ac yntau wedi ymrwymo i ddenu cynulleidfaoedd newydd i gerddoriaeth glasurol sefydlodd Sinfonia Newydd, cwmni a oedd yn comisiynu ac yn cynhyrchu cerddoriaeth newydd, pan oedd yn y Coleg yn ogystal â bod yn ffigur blaenllaw yn ein cwmni menter myfyrwyr Repco.

Wedi graddio daeth yn Gydlynydd Rhaglen ac yna’n Gydlynydd Rhaglen Glasurol yn Neuadd y Dref a Neuadd Symffoni, Birmingham. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Bwrdd Opera Cenedlaethol Cymru ac yn Gynghorydd gyda Sefydliad y Gymdeithas Hawliau Perfformio (PRS) (prif gyllidwr cerddoriaeth newydd ar draws pob genre yn y DU), curadur gwadd ar gyfer gŵyl Wonderfeel 2021, gŵyl gerddoriaeth glasurol awyr agored fwyaf yr Iseldiroedd, ac yn Gymrawd Cymdeithas Ryngwladol y Celfydyddau Perfformio.

A dyma Toks yn sgwrsio am y cwrs Rheolaeth yn y Celfyddydau yn 2016:

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Rydym yn edrych ymlaen at weld a chlywed beth fydd dyfodol cerddoriaeth glasurol. Llongyfarchiadau, Toks!
I gael rhagor o wybodaeth am Toks ewch i’w wefan: www.toksdada.com

ac i gael gwybod mwy am astudio Cerddoriaeth neu Reolaeth yn y Celfyddydau yn y Coleg ewch i’n tudalennau gwe.

Storïau eraill