Arwain

Rydym yn dal i dderbyn ceisiadau ar gyfer y cyrsiau BMus (Anrh) Cerddoriaeth (ar gyfer y llwybrau lleisiol, offerynnol a chyfansoddi) a BMus (Anrh) Jazz ar gyfer mynediad. Mae lleoedd yn amodol ar argaeledd. Cofiwch gysylltu â’n Tîm Mynediadau cyn cyflwyno cais.

Mae ein rhaglen ôl-radd mewn arwain yn caniatáu i gerddorion arbenigo mewn naill ai arwain cerddorfaol, corawl neu fand pres, i ddatblygu eich arddull, techneg a’ch strategaethau arwain. 

Mae cydweithio â myfyrwyr ac ensembles CBCDC yn cael ei ategu gan bartneriaethau a chyfleoedd lleoliadau proffesiynol yn ôl eich arbenigedd, gan gynnwys gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Opera Cenedlaethol Cymru, Ensembles Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Band Cory. 

Byddwch yn datblygu arddull arwain personol hyderus a nodedig drwy hyfforddiant arbenigol sy’n ymdrin ag ystod lawn o dechnegau arwain arweinydd proffesiynol tra’n trochi eich un mewn cyfleoedd i berfformio, ennill profiad ymarferol yn y diwydiant a chydweithio ar draws yr ystod lawn o ddisgyblaethau a gynigir yn CBCDC. 

Pam astudio arwain yn CBCDC? 

  • Mae ein hadran fach a chefnogol yn golygu y gellir teilwra eich hyfforddiant i’ch anghenion unigol, gan eich cefnogi a’ch ysbrydoli i ddod o hyd i’ch arddull personol o ran arwain. 
  • Mae myfyrwyr arwain cerddorfaol yn elwa ar gyfleoedd rihyrsal a pherfformio mewnol gydag ensembles amrywiol y Coleg, gan gynnwys Cerddorfa Symffoni CBCDC dan arweiniad Arweinydd Preswyl y Coleg, David Jones. 
  • Arweinir y rhaglen Arwain Bandiau Pres gan Dr Robert Childs, un o ffigurau mwyaf cydnabyddedig a dawnus yn y maes a chyn-gyfarwyddwr Band Cory, Band Pres Preswyl y Coleg, sydd wedi’i enwi’n brif fand pres y byd
  • Mae myfyrwyr Arwain Corawl, dan arweiniad yr arweinydd a chyfarwyddwr artistig o Brydain Andrea Brown, yn gweithio gyda chorau amatur a phroffesiynol mewn amrywiaeth o gyd-destunau a genres. 
  • Mae Arweinwyr Corawl yn gweithio’n agos gyda staff a myfyrwyr o adrannau Llais ac Opera CBCDC 
  • Byddwch yn cael eich addysgu gan artistiaid, cydweithwyr ac addysgwyr o fri rhyngwladol, pob un â gyrfaoedd cyfoes yn perfformio ar y lefel uchaf. 
  • Mae cyfleoedd i arsylwi a gweithio gydag arweinwyr gwadd nodedig rhyngwladol i ddadansoddi, trafod ac ymarfer eich repertoire craidd. 
  • Mae cydweithio yn rhan bwysig iawn o’r hyn a wnawn. Mae myfyrwyr yn datblygu eu dychymyg a’u setiau sgiliau unigryw, yn ogystal â’u cyflogadwyedd, drwy gydweithio dan arweiniad staff a myfyrwyr ar draws genres ac adrannau – jazz, gwerin, cyfansoddi, theatr gerddorol, opera, cynllunio a drama.       

  • Dysgu mwy am CBCDC
    • Mae ein sefydliad amlddiwylliannol ffyniannus yn croesawu 800 o fyfyrwyr o dros 40 o wledydd. Byddwch yn hyfforddi ochr yn ochr ag offerynwyr, actorion, cantorion, cyfansoddwyr a chynllunwyr ar gyfer perfformio eraill ac yn gweithio gyda hwy ar brosiectau drwy gydol y flwyddyn.
    • Mae cydweithio yn rhan enfawr o’r hyn a wnawn, gan eich galluogi i drochi mewn profiadau newydd gydag ystod eang o ddisgyblaethau a sgiliau o bob adran o’r Coleg. Mae ein cwmni REPCo unigryw a arweinir gan fyfyrwyr yn annog myfyrwyr i gydweithio i fod yn feiddgar, yn llawn dychymyg ac yn entrepreneuraidd.
    • Mae ein partneriaethau â diwydiant yn rhoi profiadau dysgu gwell yn y byd go iawn gyda sefydliadau celfyddydol a cherddorion proffesiynol blaenllaw, a hefyd yn cynnig cyfleoedd i chi ddatblygu eich rhwydweithiau proffesiynol ar gyfer y dyfodol.
    • Mae CBCDC yn ganolfan gelfyddydau brysur sy’n llwyfannu 500 o berfformiadau’r flwyddyn (llawer ohonynt am ddim) sy’n gyfuniad o artistiaid o’r radd flaenaf a gwaith myfyrwyr, yn aml ochr yn ochr. Mae digwyddiadau mawr rheolaidd yn CBCDC yn cynnwys Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC, BBC Canwr y Byd Caerdydd a digwyddiadau annibynnol fel Cyngres Telynau’r Byd ym mis Gorffennaf 2022.
    • Y Coleg yw’r conservatoire cyntaf yn y DU i gyflawni lefel safon aur o sicrwydd ansawdd ar draws meysydd Cerddoriaeth, Drama a Dan 18 yn adolygiad Gwella Ansawdd Cerddoriaeth rhyngwladol diweddar MusiQuE. Gwnaeth agwedd y Coleg o ran profiad myfyrwyr unigol, cydweithio amlddisgyblaethol ac uchelgais cyffredinol argraff arbennig ar yr adolygwyr, a nododd fod CBCDC yn enghraifft ddisglair o arfer gorau ar draws conservatoires Ewrop, ac yn adlewyrchu pobl eithriadol a chymuned unigryw’r Coleg. 
    • Fel yr unig gonservatoire Steinway cyfan yn y byd mae gan y Coleg bellach fflyd o bianos o’r radd flaenaf, ac mae pob piano acwstig yn y Coleg yn un Steinway.
    • Credwn yn sylfaenol yng ngrym cerddoriaeth i drawsnewid a chyfoethogi cymdeithas, gan ddatblygu sgiliau addysgu, hyfforddi a chyd-greu prosiectau i greu cerddorion y dyfodol a fydd yn gwneud argraff fel perfformwyr, athrawon a galluogwyr o fewn y gymuned ehangach. Mae cwestiynau sylfaenol - ‘Sut gallwn siapio diwydiant y dyfodol’, ‘Sut gallwn ddefnyddio celfyddyd i wneud gwahaniaeth’ – yn ein helpu i gynhyrchu cerddorion sy’n wirioneddol berthnasol i’r byd yr unfed ganrif ar hugain.
    • Byddwch yn ymarfer, yn astudio ac yn perfformio mewn lleoliad hyfryd a llawn ysbrydoliaeth sy’n ffinio â Pharc Bute, sef un o fannau gwyrdd mwyaf y ddinas. Mae gennym neuadd gerddoriaeth siambr gydag acwsteg hynod, cyntedd a man perfformio gwydrog, Theatr Richard Burton, yn ogystal â stiwdios a mannau rihyrsal o’r radd flaenaf.
    • Mae ein campws yng nghanol Caerdydd, Dinas Gerddoriaeth gyntaf y DU, a phrifddinas gartrefol a llewyrchus Cymru, sydd ond dwy awr ar y trên i ganol Llundain.
    • Cafodd Caerdydd ei henwi’n ddinas fwyaf cost-effeithiol yn y DU ar gyfer myfyrwyr, yn ôl Mynegai Byw Myfyrwyr NatWest 2022.

Cofrestrwch i Dderbyn Diweddariadau

I dderbyn rhagor o wybodaeth am astudio gyda ni, cofrestrwch isod.

Anfonir e-bost atoch yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Gwiriwch eich ffolder sbam / sothach os nad yw’r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau.

Cyrsiau

Diweddaraf o’r Blog

Mwy