Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Robert Childs

Rôl y swydd: Arweinydd Maes Astudio Bandiau Pres

Adran: Pres

Anrhydeddau: MMus (Rhag), PGCE (Rhag), FLCM (Anrh), ARCM (Anrh), FRWCMD.

Bywgraffiad Byr

Mae Doctor Robert Childs yn ffigwr amlwg ym myd cerddoriaeth bres.

Penodwyd Robert yn Brif Arweinydd a Chyfarwyddwr Cerddorol Band Cory. Cafodd lwyddiant digynsail gyda’r band ac ar ôl dychwelyd i Gymru, daeth yn Gyfarwyddwr Astudiaethau Bandiau Pres yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Arbenigedd

Am dros dri deg mlynedd, mae wedi perfformio’n rhyngwladol ar y lefel uchaf, gan berfformio unawdau yn llawer o leoliadau amlycaf y byd. Rhoddodd ddosbarthiadau meistr mewn conservatoires blaenllaw ledled Ewrop a chaiff ei gydnabod fel arbenigedd addysg blaenllaw yn ei faes.

Cyflawniadau Nodedig

Derbyniodd Robert Ddoethuriaeth yn y Celfyddydau Cerddorol o Brifysgol Salford. Y mae hefyd yn Aelod Cyswllt o’r Coleg Cerdd Brenhinol ac yn Gymrawd o’r London College of Music. Cafodd cyflawniadau cerddorol Robert eu cydnabod gan y Worshipful Company of Musicians pan ddyfarnwyd Medal Iles iddo.

Derbyniodd Robert ‘Ryddid Dinas Llundain’ ac yn ddiweddarach derbyniodd Wobr Goffa John Edwards gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru am ei gyfraniad rhagorol i gerddoriaeth Cymru. Y mae hefyd wedi’i wneud yn Gymrawd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Proffiliau staff eraill