
Rydym yn dal i dderbyn ceisiadau ar gyfer y cyrsiau BMus (Anrh) Cerddoriaeth (ar gyfer y llwybrau lleisiol, offerynnol a chyfansoddi) a BMus (Anrh) Jazz ar gyfer mynediad. Mae lleoedd yn amodol ar argaeledd. Cofiwch gysylltu â’n Tîm Mynediadau cyn cyflwyno cais.
Pa fath o gerddor ydych chi am fod?
Os oes gennych chi’r ddawn, yr ymroddiad, os oes gennych chi’r cymhelliant i fod y cerddor gorau y gallwch fod, mae croeso i chi yma. Rydym yn credu ynoch chi o’r eiliad y byddwch yn cyrraedd.
Tim Rhys-Evans, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth
Pam astudio cerddoriaeth yn CBCDC?
-
Mae ein holl gyrsiau cerddoriaeth yn canolbwyntio arnoch chi a’r cerddor yr ydych am fod; ar ddatblygu eich sgiliau fel unigolyn, artist cydweithredol ac fel cerddor a fydd yn cyfrannu at gymdeithas.
-
Rydym yn ymfalchïo yn ein dosbarthiadau bach ac addysgu un i un sy’n rhoi addysg bwrpasol a mwyaf addas i anghenion ein myfyrwyr.
-
Mae gennym ein canolfan gelfyddydau ein hunain ar y campws sy’n cyflwyno dros 500 o berfformiadau bob blwyddyn gan roi’r cyfle i chi weld perfformwyr o’r radd flaenaf ar y campws ac i berfformio mewn digwyddiadau byw eich hun.
-
Rydym yn sefydliad amlddiwylliannol, gyda myfyrwyr o 40 o wahanol wledydd.
-
Mae ein staff addysgu yn artistiaid, cydweithredwyr ac addysgwyr o fri rhyngwladol.
-
Cydweithio creadigol ar draws ein holl adrannau sy’n tynnu staff a myfyrwyr o bob rhan o’r Coleg ynghyd.
-
Lleoliad eiconig - mae pensaernïaeth syfrdanol y Coleg yn cynnwys neuadd ddatganiad cerddoriaeth siambr gydag acwsteg ragorol, theatr cwrt hardd, stiwdios o’r radd flaenaf a chyntedd trawiadol.
-
Mae ein proses clyweliadau yn canolbwyntio ar eich dangos chi ar eich gorau.
-
Mae’r campws wedi’i leoli yng nghanol Caerdydd, prifddinas Cymru, ac mae llai na 2 awr ar y trên o ganol Llundain.
-
Caerdydd yw’r “Ddinas Fwyaf Cost-effeithiol” ar gyfer myfyrwyr yn y DU, yn ôl Mynegai Byw Myfyrwyr Natwest 2022.
-
Mae ein campws yn cynnal digwyddiadau mawr fel cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd, World Stage Design, Cyngres Telynau’r Byd a Cherddor Ifanc y Flwyddyn y BBC.
-
Ni yw’r unig Gonservatoire Steinway yn Unig yn y byd, ac mae pob piano acwstig yn y Coleg yn un Steinway. Bydd pob myfyriwr cerddoriaeth nawr yn gallu defnyddio Steinway pan fyddant yn ymarfer, pan fyddant yn cael eu harholi, a phan fyddant yn perfformio.
-
Y Coleg yw’r conservatoire cyntaf yn y DU i gyflawni lefel safon aur o sicrwydd ansawdd ar draws meysydd Cerddoriaeth, Drama a’r rheini dan 18 oed yn adolygiad rhyngwladol diweddar Musique, Gwella Ansawdd Cerddoriaeth. Gwnaeth agwedd y Coleg at brofiad myfyrwyr unigol, cydweithio amlddisgyblaethol, ac uchelgais cyffredinol argraff arbennig ar yr adolygwyr, gan nodi CBCDC fel enghraifft ddisglair o arfer gorau ar draws conservatoires Ewropeaidd, ac un sy’n adlewyrchu pobl eithriadol a chymuned unigryw’r Coleg.

‘Mae’r Coleg yn teimlo fel lle sy’n ymchwilio go iawn i sut fydd dyfodol cerddoriaeth, yn ei holl ffurfiau, gan ofyn cwestiynau pwysig ein hoes am gerddoriaeth a drama,’ meddai Errollyn. ‘Mae’n ysbrydoledig iawn i deimlo fy mod yn rhan o hynny ac mae eisoes yn cyfoethogi fy mywyd mewn ffyrdd gwych.’
Errollyn Wallen, Artist Preswyl
Beth am glywed yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei feddwl am astudio yn CBCDC
Yr hyn sydd mor ganolog i fywyd yn CBCDC yw bod y gerddoriaeth a wnawn nid yn unig yn golygu’r hyn rydych chi’n ei chwarae, mae’n ymwneud â phwy ydych chi a’r hyn rydych yn ei gyfrannu.
Elizabeth Bonsell (Myfyriwr BMus)
Darganfod mwy am ein cyrsiau cerddoriaeth