Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Vivien Care

Rôl y swydd: Pennaeth Theatr Gerddorol

Adran: Theatr Gerddorol

Anrhydeddau: LWCMD, AWCMD, LRAM, Diploma Ôl-raddedig (RAM), ARAM

Bywgraffiad

Derbyniodd Vivien Care hyfforddiant mewn astudiaethau llais fel myfyriwr israddedig ac ôl-raddedig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Arbenigodd mewn Theatr Gerddorol yn yr Academi Gerdd Frenhinol gan raddio yn 2000 gyda Rhagoriaeth, LRAM, a Gwobr Mary Hammond. Arbenigodd Vivien mewn Theatr Gerdd yn yr Academi Frenhinol Gerdd (RAM), gan raddio gyda Rhagoriaeth, yr LRAM, a Gwobr Mary Hammond. Cyn RAM, astudiodd Vivien fel myfyrwraig israddedig ac ôl-raddedig mewn Astudiaethau Llais yn CBCDC.

Mae ei gyrfa berfformio yn cynnwys theatr gerdd West End, Theatr Raddfa Fach a Theatr Ymylol, teithio yn y DU ac yn rhyngwladol, gwaith stiwdio yn recordio traciau sain albymau a ffilmiau mawr gyda Capital Voices a Metro Voices, ymddangosiadau teledu, cyngherddau a radio.

Mae uchafbwyntiau perfformio yn cynnwys The Sound of Music (Taith Palladium Llundain a'r DU), Les Misérables (Theatr y Palas, Theatr y Frenhines, Taith Gyngerdd Ryngwladol, Dathliad 25 mlynedd yn Arena O2, digwyddiad preifat yng Nghastell Windsor ym mhresenoldeb EM y Frenhines Elizabeth II), High Society (Theatr Shaftesbury a Regents Park) ynghyd â dau dymor arall yn Theatr Awyr Agored Regents Park gyda HMS Pinafore a The Boyfriend.

Arbenigedd

Sefydlodd Vivien y rhaglen MA Theatr Gerdd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, y cyntaf o'i fath yng Nghymru; ac yn 2020 ysgrifennodd y rhaglen BA (Anrh) Theatr Gerdd israddedig. Gan fod ganddi angerdd dros hyfforddiant cynhwysfawr ar gyfer y diwydiant theatr gerdd gyfoes, mae hi wedi dal swydd Arholwr Allanol i sawl sefydliad yn y DU a Chynullydd ar gyfer adolygiadau rhaglenni yn y Royal Conservatoire of Scotland.

Mae galw mawr am Vivien fel hyfforddwr ac ymgynghorydd ac mae wedi gweithredu fel beirniad ar gyfer amryw o gystadlaethau eisteddfodau ledled Cymru, gan gynnwys eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Cyflawniadau Nodedig

Yn 2020, dyfarnwyd ARAM i Vivien, gan ei phenodi’n Aelod Cyswllt o’r Academi Gerdd Frenhinol.


Proffiliau staff eraill