Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Joseph Davies

Rôl y swydd: Tiwtor mewn Cyfansoddi gyda Sgiliau Cerddoriaeth wedi’i Nodiannu

Adran: Cyfansoddi a Thechnoleg Cerddoriaeth Greadigol

Anrhydeddau: MMus (RAM) BA Anrh (Oxon) LRAM

Gweld eu gwaith:

Bywgraffiad Byr

Ganwyd Joseph Davies yng Nghaerdydd. Mae’n gyfansoddwr a ddisgrifiwyd fel ‘one of the brightest of rising stars’ (Bernard Clarke, RTÉ) ac mae ei gerddoriaeth, a ddisgrifiwyd fel ‘extraordinarily vivid and exuberant’ (Ivan Hewitt, BBC Radio 3) wedi’i pherfformio a’i darlledu ledled Ewrop a’r Unol Daleithiau.

Mae ei gomisiynau’n amrywio o weithiau meistrolgar maint siambr ar gyfer rhai o gerddorion mwyaf dawnus ei genhedlaeth i weithiau ar raddfa fawr i ensembles yn cynnwys sawl darn i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yn 2016, cydweithiodd â’r bardd a Chyn-Archesgob Gaergaint, Rowan Williams, ar gylch o ganeuon, The Shortest Day, i nodi hanner can mlwyddiant trychineb Aberfan, ac mae wedi trefnu albymau i’r cerddorion pop, Meilyr Jones a Baxter Dury. Yn 2017, enwebwyd darn Joseph i gerddorfa chwythbrennau, Anemoi, am wobr Cyfansoddwr Prydeinig BASCA a dyfarnwyd Gwobr Syr Geraint Evans iddo gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru. Mae ei brosiectau diweddar yn cynnwys concerto i’r fiolín, Parallax, ar gyfer BBC NOW a’r unawdydd Daniel Pioro a Collider ar gyfer UPROAR Ensemble a aeth ar daith ar ddechrau 2022. Caiff ei waith ei gyhoeddi gan Birdsong Music, a chyhoeddwyd detholiad o’i waith gan Chester Music. Mae’n byw yn Llundain.

Arbenigedd

Mae Joseph yn ddarlithydd mewn cyfansoddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ers 2013. Yn 2019-20 ef oedd y prif gyfansoddwr ar gyfer cynllun Tŷ Cerdd, ‘CoDI Text’, gan fentora chwech o gyfansoddwyr gyda’r dramodydd Kaite O’Reilly. Mae wedi addysgu cyfansoddi, theori cerddoriaeth a phiano mewn ysgolion ac yn breifat ers 2010.

Cyflawniadau Nodedig

  • Concerto i’r Fiolín, Parallax, a berfformiwyd am y tro cyntaf gan Daniel Pioro a BBC NOW (2022)
  • Prif gyfansoddwr cynllun Tŷ Cerdd, ‘CoDI Text’ (2020)
  • Anemoi wedi’i enwebu ar gyfer Gwobr Cyfansoddwr Prydeinig BASCA (2017)
  • Dyfarnwyd Gwobr Syr Geraint Evans iddo gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru (2017)
  • Dyfarnwyd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig i albwm Meilyr Jones, 2013 (2016)
  • The Shortest Day i destun gan Rowan Williams yn nodi hanner can mlwyddiant trychineb Aberfan (2016)
  • Echoes yn cael ei berfformio yn New Orleans gan Jeremy Huw Williams gan deithio o amgylch UDA (2015)
  • Intricate Images yn cael ei berfformio am y tro cyntaf gan Catrin Finch a Steffan Morris i nodi can mlwyddiant Dylan Thomas yng Ngŵyl Abertawe (2014)
  • NYOW yn mynd â Byzantium ar daith o amgylch yr Almaen (2013)

Dolenni i ymchwil / prosiectau perthnasol

Joseph yn trafod ei gyfansoddiad, Collider

Joseph yn sgwrsio ag Anthony Cheng ar gyfer FORTE Podcast

Gwrandewch ar SoundCloud Joseph.

Proffiliau staff eraill