Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Catriona MacKinnon

Rôl y swydd: Tiwtor Obo

Adran: Chwythbrennau

Bywgraffiad Byr

Graddiodd Catriona o’r Academi Gerdd Frenhinol, lle enillodd ragoriaeth yn ei hastudiaethau israddedig ac ôl-raddedig. Ers symud i Gaerdydd bu’n Brif Oböydd Opera Cenedlaethol Cymru ac yn diwtor Obo yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae Catriona hefyd wedi ymddangos fel prif oböydd gwadd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, BBC Scottish Symphony, City of Birmingham Symphony Orchestra, Northern Sinfonia, Royal Philharmonic Orchestra, Royal Scottish National Orchestra, Scottish Chamber Orchestra a Scottish Ballet.

Arbenigedd

Yn ogystal â’i gyrfa gerddorfaol brysur, mae Catriona wedi mwynhau perfformio fel unawdydd a cherddor siambr gyda llawer o ensembles, gan gynnwys Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, Scottish Concert Orchestra, Cardiff Winds a’r Gould Trio.

Yn enedigol o Glasgow, dechreuodd Catriona ddysgu'r obo gyda Stephen West yn ddeg oed. Roedd yn aelod o Gerddorfa Ieuenctid yr Undeb Ewropeaidd, National Youth Orchestra of Great Britain, Camerata Scotland a National Youth Orchestra of Scotland. Cyrhaeddodd rownd derfynol y chwythbrennau yng nghystadleuaeth Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC.

Yn ystod ei chyfnod yn yr Academi bu’n cydweithio a pherfformio gyda’r Juilliard School yn Efrog Newydd a threuliodd semester yn astudio yn yr Hochschule für Music und Theatre yn Leipzig.

Proffiliau staff eraill