Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Ross Brown

Rôl y swydd: Tiwtor Trymped

Adran: Pres

Anrhydeddau: BMus (Anrh), LRAM, ARAM

Bywgraffiad

Astudiodd Ross Brown y trymped yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, lle roedd ei athrawon yn cynnwys James Watson, Howard Snell, Paul Archibald a Robert Farley. Tra roedd yn yr Academi bu'n aelod o Gerddorfa Ieuenctid yr Undeb Ewropeaidd a Cherddorfa Faróc yr Undeb Ewropeaidd.

Arbenigedd

Mae Ross yn perfformio a recordio’n rheolaidd gyda rhai o gerddorfeydd ac ensembles mwyaf blaenllaw'r byd, yn aml fel prif drympedwr gwadd, gan gynnwys The Academy of St Martin in the Fields, Royal Philharmonic Orchestra, Britten Sinfonia, English Chamber Orchestra, Bournemouth Symphony Orchestra, The King’s Consort, La Serenissima, The Hanover Band a The Academy of Ancient Music.

Yn ogystal ag addysgu trymped a thrymped naturiol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Ross yn Gydlynydd Astudiaethau Pres yn Wells Cathedral School, ac yn hyfforddi ar gyfer y Gerddorfa Genedlaethol i Blant.

Cyflawniadau Nodedig

Fel prif drympedwr y London Chamber Orchestra, mae wedi ymddangos fel unawdydd ac wedi perfformio a recordio ledled Ewrop, ac mae'n ymddangos yn rheolaidd ar y teledu a'r radio. Ei gynulleidfa fwyaf oedd darllediad byd-eang byw o Briodas Frenhinol EHB Dug a Duges Caergrawnt yn Abaty San Steffan ym mis Ebrill 2011.

Anrhydedd iddo oedd derbyn ARAM am gyfraniad sylweddol i broffesiwn cerddoriaeth.

Proffiliau staff eraill