Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

David Childs

Rôl y swydd: Tiwtor Gwadd Rhyngwladol i’r Ewffoniwm a’r Bariton

Adran: Pres

Anrhydeddau: MMus (Rhag), BMus (Anrh), ARCM (Anrh), PPRNCM (Rhag), ARCWMD

Bywgraffiad Byr

Yn nai ac yn fab i chwaraewyr ewffoniwm uchel eu parch o gymoedd de Cymru, ac yntau wedi’i ddisgrifio gan The Observer fel ‘a great ambassador for the euphonium, possessing an astonishing technique and an engaging stage presence’, caiff David Childs ei ystyried yn un o gerddorion pres gorau ei genhedlaeth, gan deithio’n helaeth ledled Asia, tir mawr Ewrop a Gogledd America.

Yn gyn-fyfyriwr balch Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae David bellach yn Diwtor Gwadd Rhyngwladol ac yn Athro’r Ewffoniwm amser llawn yn University of North Texas.

Arbenigedd

Ac yntau’n frwdfrydig iawn dros gerddoriaeth newydd, mae David wedi rhoi’r perfformiad cyntaf erioed o bymtheg o concertos i’r ewffoniwm, a’r llynedd rhyddhaodd ei ail albwm ar label Chandos sy’n cynnwys y recordiadau cyntaf erioed o concertos i ewffoniwm a cherddorfa. Fel Artist Buffet Crampon Besson, mae David yn parhau i arddangos yr ewffoniwm fel cyfrwng unawdau ym myd cerddoriaeth glasurol, gan fraenaru’r tir i chwaraewyr ewffoniwm ledled y byd.

Cyflawniadau Nodedig

Ar droad y mileniwm, enillodd David Rownd Derfynol yr Offerynnau Pres yng nghystadleuaeth Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC, ac ers hynny ymddangosodd fel unawdydd gyda Cherddorfeydd Cyngerdd y BBC, Manceinion ac RTÉ, Cerddorfa Cenedlaethol Gymreig y BBC, BBC Philharmonic Orchestra, Philharmonie Baden-Baden, Royal Liverpool Philharmonic Orchestra, Royal Philharmonic Orchestra, Sinfonia Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Vancouver Symphony Orchestra a llawer o fandiau pres a bandiau milwrol gorau’r byd.

Ymddangosodd fel unawdydd hefyd yng Ngŵyl Ryngwladol Singapore, Harrogate International Festival, Cheltenham Festival, Melbourne International Festival, BBC Proms a’r New York Festival, rhoddodd ddatganiadau fel unawdydd yn Wigmore Hall, Purcell Room a Bridgewater Hall, a pherfformiodd goncertos yn Concertgebouw, Royal Albert Hall, Queen Elizabeth Hall, Royal Festival Hall, Symphony Hall, Lincoln Center a Carnegie Hall yn Efrog Newydd.

Proffiliau staff eraill