Patricia Logue
Uwch Ddarlithydd mewn Actio
Rôl y swydd: Tiwtor Feiolin
Adran: Llinynnau
Ar hyn o bryd mae Matthew Scrivener yn Flaenwr yng Ngherddorfa Ffilharmonig Bale Cenedlaethol Lloegr yn Llundain. Yn y rôl hon, mae wedi recordio unawdau ffidil o'r gweithiau bale Swan Lake a Raymonda yn ddiweddar. Mae wedi ymddangos fel blaenwr gwadd gyda'r rhan fwyaf o gerddorfeydd y DU gan gynnwys; Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Siambr Cymru, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol (RPO), London Mozart Players, City of London Sinfonia, CBSO, RSNO, Cerddorfa Symffoni BBC yr Alban, a Cherddorfa Symffoni Genedlaethol Iwerddon a Gävle Sinfoniorkest yn Sweden.
Ar ôl bod ar daith gyda Cherddorfa Ieuenctid Ewrop fel y prif ail ffidil ac ar ôl graddio o'r Coleg Cerdd Brenhinol y Gogledd a'r Academi Gerdd Frenhinol, daeth yn aelod o Gerddorfa Siambr Lloegr. Ymunodd wedyn â Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl fel is-flaenwr. Mae ei yrfa berfformio wedi mynd ag ef i dros 80 o wledydd a channoedd o neuaddau cyngerdd rhyngwladol.
Fel unawdydd, mae wedi perfformio concerti gan Mendelssohn, Mozart, Beethoven, Bruch a Prokofiev, yn ogystal â’r Pedwar Tymor gan Vivaldi gyda’r Gerddorfa Symffoni Genedlaethol. Ym myd cerddoriaeth fasnachol, mae Matthew wedi recordio unawdau ffidil ar gyfer Take That a Jamiroquai ac roedd yn flaenwr ar gyfer cynhyrchiad o’r sioe Wizard of Oz yn y West End. Mae wedi bod yn flaenwr mewn cerddorfeydd ar nifer o draciau sain ar gyfer ffilmiau, ac mae wedi teithio o amgylch y byd gyda Sarah Brightman fel blaenwr ac arweinydd. Mae wedi arwain dosbarthiadau meistr a dosbarthiadau ar repertoire cerddorfaol a chlyweliadau mewn sawl Conservatoire yn y DU.
Mae'n gredwr mawr mewn ymarfer graddfeydd cerddorol yn ddyddiol yn ogystal â chael gwersi unigol er mwyn meithrin profiad, hyder a chreadigrwydd wrth ddysgu sut i ymarfer.