Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

James Kirby

Rôl y swydd: Tiwtor Piano

Adran: Piano

Anrhydeddau: GRSM, LRAM

Bywgraffiad Byr

Mae James yn perfformio'n rheolaidd ledled y DU ac Ewrop. Mae ei waith o ran datganiadau yn cynnwys ymddangosiadau mewn cyfresi cyngherddau mawr yn Ffrainc, Gwlad Belg, yr Almaen, yr Eidal, yr Iseldiroedd, y Weriniaeth Tsiec, Bermuda, Tsieina, Singapôr a Malaysia ac yn y DU yn Neuadd Wigmore a gwyliau Caeredin ac Aldeburgh. At ôl astudio yng Nghonservatoire Moscow (yn ystod y cyfnod hwnnw cyrhaeddodd rownd gynderfynol Cystadleuaeth Ryngwladol Tchaikovsky) mae wedi dychwelyd i berfformio yn yr hen Undeb Sofietaidd droeon. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae perfformiadau yng Ngŵyl Sakharov yn Nizhny Novgorod a Gŵyl Omsk.

Arbenigedd

Mae perfformiadau cerddorfaol James yn cynnwys concerti gyda Cherddorfeydd Siambr Lloegr a’r Alban, Cerddorfeydd Symffoni Moscow, Kazakh a Belorwsia, a Cherddorfeydd Ffilharmonig Arad ac Oradea (Rwmania), ac mewn lleoliadau sy’n cynnwys Neuadd Frenhinol Albert, y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden, Neuadd Symffoni, Birmingham, Neuadd Fawr Conservatoire Moscow a Thŷ Opera Astana.

Mae wedi bod yn aelod o Driawd Piano Barbican ers 1992. Mae repertoire y Triawd yn cynnwys dros saith deg o weithiau ac mae eu disgograffeg yn cynnwys triawdau gan Lalo, Tchaikovsky, Taneyev, Rachmaninov a Schnittke.

Mae James wedi gweithio gyda Phedwarawd Vanburgh, BBC Singers, Lydia Mordkovitch a’r mezzo soprano Sarah Connolly ac wedi gwneud sawl recordiad i Chandos. Mae’n athro ymroddedig ac yn dal swyddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, Royal Holloway, Prifysgol Llundain a Choleg Eton.

Mae wedi gwasanaethu ar Reithgorau nifer o gystadlaethau Piano rhyngwladol, yn arbennig yn Tsieina, Rwmania, Latfia, Rwsia a Slofenia a bydd yn cynnal llawer o ddosbarthiadau meistr, yn y DU a thramor.

Proffiliau staff eraill