Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Sarah Bennington

Rôl y swydd: Tiwtor Ffliwt

Adran: Chwythbrennau

Bywgraffiad Byr

Sarah Bennington yw Is-Brif Ffliwtydd presennol Opera Cenedlaethol Cymru - swydd sy'n galw arni i hefyd chwarae'r Prif Ffliwt, Piccolo a Ffliwt Alto yn ôl yr angen. Cyn hyn, bu'n Brif 2il Ffliwtydd gyda’r Orchestra of Scottish Opera, a Phrif Ffliwtydd gydag Orquestra do Norte, ym Mhortiwgal. Mae hefyd yn gweithio gyda cherddorfeydd eraill yn y DU gan gynnwys London Symphony Orchestra, London Philharmonic Orchestra, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, City of Birmingham Symphony Orchestra, Royal Scottish National Orchestra a Scottish Chamber Orchestra.

Arbenigedd

Mae Sarah yn mwynhau amrywiaeth o gerddoriaeth siambr, sy'n cynnwys gweithio fel Prif Chwaraewr gwadd gyda’r Berkeley Ensemble, a chyda hwy bu’n Artist Preswyl yn y Dartington International Summer School. Mae hefyd yn ymddangos ar eu halbwm 'Lennox Berkeley: Chamber Works.’

Fel unawdydd, mae Sarah yn mwynhau cyflwyno datganiadau ac mae wedi perfformio nifer o goncertos gan gynnwys Concerto ar gyfer Ffliwt a Cherddorfa gan Nielsen, Concerto yn G gan Mozart, a Concerto yn D Leiaf gan CPE Bach, yn ogystal â Concerto Piccolo gan Liebermann.

Mae Sarah hefyd yn actor. Pan nad yw'n creu cerddoriaeth, mae'n brysur yn ffilmio neu'n gweithio ar ddrama. Derbyniodd y wobr am y Perfformiad Unigol Gorau yng Ngŵyl Drama Un Act Cynghrair Drama Morgannwg am ei pherfformiad yn The Last Nickel gyda Chwmni Theatr Monocle.

Cyflawniadau Nodedig

Graddiodd Sarah o'r Guildhall School of Music and Drama, lle bu'n astudio gydag Ian Clarke, Philippa Davies a Sharon Williams. Enillodd Wobr Dove am raddio gyda'r marc uchaf yn ei lefel blwyddyn, a Gwobr Ffliwt Ysgoloriaeth Goffa Laurie Kennedy am ei datganiad terfynol.

Proffiliau staff eraill