Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Jennie Joy Porton

Rôl y swydd: Tiwtor Sacsoffon a Thiwtor Dyblu Clarinét/Sacsoffon

Adran: Chwythbrennau

Anrhydeddau: PhD (RHUL), MMus (CBCDC, cyfun clarinét/sacsoffon), BMus (Anrh) (RCM, cyfun clarinét/sacsoffon)

Bywgraffiad Byr

O ganol dinas Caerdydd y daw Dr Jennie Joy Porton, a mynychodd y Coleg Cerdd Brenhinol ‘flwyddyn yn gynnar’ yn 17 oed, ar lwybr Prif Astudio Cyfun, na ddyfernir yn aml, ar y clarinét a’r sacsoffon. Cymerodd semester i astudio’r clarinét ym Mhrifysgol Mozarteum, Salzburg, gydag Alois Brandhofer, a derbyniodd hyfforddiant dwys ar y sacsoffon yn Efrog Newydd gyda Dr Paul Cohen (o’r Manhattan School of Music).

Gyda chymorth Ymddiriedolaeth Gerdd Iarlles Munster, EMI Sound Foundation, Ymddiriedolaeth Elizabeth Evans a Chyngor Celfyddydau Cymru, cwblhaodd Jennie radd MMus yn CBCDC, eto ar lwybr Prif Astudio Cyfun ar y clarinét a’r sacsoffon, gan ennill y wobr am y marc uchaf am ddatganiad ôl-raddedig.

Arbenigedd

Mae gan Jennie PhD o Brifysgol Royal Holloway, a astudiwyd gydag ysgoloriaeth, sy’n archwilio safbwyntiau cyn-fyfyrwyr ar arferion conservatoires ar draws tri degawd o fynychu. Mae’r materion a drafodir yn cynnwys dosbarth, pŵer a hunaniaeth, drwy ffocws ar themâu syniadau o ‘dalent’, cwricwlwm, ac iechyd a lles. Yn 2021-22, fe’i cyflogwyd yn Ymgynghorydd Ymchwil ar gyfer CUK (Conservatoires UK) i gynnal astudiaeth sy’n canolbwyntio ar ehangu mynediad a chyfranogiad ar y lefel iau.

Fel addysgwr, mae Jennie yn addysgu sacsoffon a dyblu clarinét/sacsoffon yn CBCDC, yn ogystal â darlithio ar y modiwl ôl-raddedig ‘Yr Artist Mewn Cymdeithas’, yn ogystal â goruchwylio a mentora myfyrwyr ar brosiectau ymchwil academaidd. Mae hefyd wedi gweithio mewn rôl addysgu a hyfforddi yn y New York Summer Music Festival.

Cyflawniadau Nodedig

Fel perfformiwr llawrydd, mae Jennie yn mwynhau gyrfa amrywiol. Mae’r uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys cynhyrchiad cyntaf erioed Matthew Bourne o Romeo and Juliet, gyda phreswyliad yn Sadler’s Wells, perfformiad byw yn cael ei ddangos mewn sinemâu ledled y DU a thaith o amgylch y DU. Roedd hefyd yn Glarinét 1af (rhannu swydd) ar gyfer eu cynhyrchiad o Nutcracker! yn Llundain. Mae gan Jennie berthynas lawrydd ers amser hir â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Opera Cenedlaethol Cymru, gan gydweithio â nhw’n aml ar gyfer cyngherddau, cynyrchiadau teledu, teithiau yn y DU a ledled y byd, gan berfformio ar y clarinét a’r sacsoffon.

Ym maes theatr gerddorol, Jennie oedd deiliad y gadair ar Miss Saigon (Cameron Mackintosh Productions, taith y DU ac Iwerddon) a The Show Must Go On (Dominion Theatre, Llundain) a bu’n ddirprwy ar lu o sioeau yn y West End a ledled y DU gan gynnwys Phantom of the Opera, Chicago, Cats, Half a Sixpence, Billy Elliot. Perfformiodd Jennie hefyd ar ran o daith fyd-eang Idina Menzel yn y DU gan gynnwys yn Wembley Arena. Mae’r uchafbwyntiau eraill yn cynnwys perfformiadau masnachol gyda Cherddorfa Bourne (yn Llundain ac Ewrop) a grŵp disgo NYC, Escort (ar rannau’r daith yn Ewrop).

Dolenni i ymchwil / prosiectau perthnasol

Cyhoeddiad sydd ar y gweill:

Porton, J.J. (2023) ‘Social Inclusion in Contemporary British Conservatoires: Alumni Perspectives’ in Bull, A., Scharff, C. a Nooshin, L. (goln.) Voices for Change in the Classical Music Profession. Rhydychen: Oxford University Press

Proffiliau staff eraill