Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Martin Bowen

Rôl y swydd: Tiwtor Basŵn

Adran: Chwythbrennau

Bywgraffiad Byr

Ganwyd Martin yng Nghastell-nedd ac fe’i addysgwyd yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn yng Nghastell-nedd lle y dechreuodd ei ddiddordeb yn y basŵn. Aeth ymlaen i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol gyda Gwydion Brooke a Ronald Waller lle’r enillodd Wobr Basŵn Florence Woodbridge.

Arbenigedd

Ar ôl gadael yr Academi Gerdd Frenhinol, aeth ymlaen i ddilyn gyrfa lawrydd brysur iawn, yn perfformio gyda’r holl brif Gerddorfeydd Symffoni ac Opera yn y brifddinas a’r rhanbarthau cyn derbyn swydd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ym 1982.

Mae Martin wedi magu profiad proffesiynol sylweddol wrth berfformio concertos a datganiadau, gan gynnwys darllediadau ar y teledu a’r radio, yn y wlad hon a thramor. Y mae hefyd yn Athro Basŵn yng Ngholeg yr Iwerydd.

Proffiliau staff eraill