Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Catherine Milledge

Rôl y swydd: Tiwtor Piano Cydweithredol a Chyfeilydd Chwythbrennau

Adran: Piano

Anrhydeddau: MMus

Bywgraffiad Byr

Magwyd Catherine Milledge yn ne Cymru. Ar ôl ennill gradd dosbarth cyntaf yn y Clasuron a Saesneg o Goleg yr Iesu, Rhydychen, ymunodd â’r cwrs cyfeilio piano yn Ysgol Gerdd a Drama Guildhall, lle y cafodd ragoriaeth am ei Diploma Ôl-raddedig cyn mynd ymlaen i ennill gradd MMus mewn unawd piano

Arbenigedd

Ers hynny, bu Catherine yn perfformio’n rheolaidd fel cyfeilydd i gantorion ac offerynwyr ac mewn grwpiau siambr mawr. Rhoddodd ddatganiadau yn Wigmore Hall, Bridgewater Hall a’r Purcell Room yn ogystal ag i gymdeithasau cerddoriaeth a lleoliadau eraill ledled y wlad a thramor. Mae ei recordiadau’n cynnwys CDs gyda’r baswnydd Meyrick Alexander a’r sacsoffonydd Amy Dickson ac mae wedi darlledu’n fyw ar BBC Radio 3.

Mae Catherine bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn addysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd, ac yn gwneud gwaith llawrydd i Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Academi Llais Ryngwladol Cymru. Ers dychwelyd i Gymru, mae wedi perfformio’n rheolaidd yn MusicFest yn Aberystwyth yn ogystal ag yng Ngwyliau Gregynog, Llanandras a Bro Morgannwg. Rhoddodd ddatganiadau rheolaidd hefyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fel cyfeilydd, cerddor siambr ac unawdydd concerto. Mae gwaith blaenorol a gwaith sydd ar y gweill yn cynnwys cyngherddau gyda Roger Owens, ei phartner deuawd ar y piano a’i chydweithiwr yn CBCDC.

Cyflawniadau Nodedig

Enillodd Catherine wobr Cyfeilydd y Flwyddyn Birmingham ynghyd â gwobrau am gyfeilio yn Wigmore Hall International Song Competition a’r Royal Overseas League.

Proffiliau staff eraill