Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

John Hall

Rôl y swydd: Tiwtor Ffliwt

Adran: Chwythbrennau

Anrhydeddau: BA (Anrh), MMus

Bywgraffiad Byr

John Hall yw’r Is-Brif Ffliwtydd yng Ngherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac mae'n diwtor ffliwt yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn enedigol o Antrim, symudodd John i Glasgow i astudio yn y Royal Scottish Academy of Music and Drama. Tra’n astudio enillodd y wobr am y ffliwt a'r wobr gyntaf yn y Gystadleuaeth Concerto cyn graddio gyda Rhagoriaeth yn ei Radd Meistr. Ar ôl graddio, derbyniodd swydd ar unwaith yn yr Orchestra of Scottish Opera lle’r arhosodd am dros ddeng mlynedd. Yn dilyn hynny, cafodd John swydd yng Ngherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru cyn symud i'w rôl bresennol yng Ngherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Arbenigedd

Mae John wedi chwarae gyda nifer o brif gerddorfeydd y DU ar ffliwt a phicolo gan gynnwys Cerddorfa'r Royal Opera House a’r BBC Symphony Orchestra. Bu John hefyd yn brif ffliwtydd gwadd yn RTE National Symphony Orchestra of Ireland, Scottish Chamber Orchestra, Royal Liverpool Philharmonic, Ulster Orchestra a BBC Scottish Symphony Orchestra.

Fel unawdydd, mae John wedi perfformio sawl concerto, yn fwyaf arbennig trefniant cerddorfaol Lennox Berkeley o sonata Poulencar i deledu'r BBC gyda’r Ulster Orchestra. Mewn datganiadau, mae wedi darlledu ar radio'r BBC. Am flynyddoedd lawer, roedd John yn aelod o gynllun Live Music Now! Yehudi Menuhin sy'n dod â cherddoriaeth i bobl na fyddent fel arall yn cael profi llawenydd cerddoriaeth fyw.

Proffiliau staff eraill