Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Dr Sarah Smith


Rôl y swydd: Uwch-ddarlithydd mewn Cerddoriaeth (Astudiaethau Cyd-destunol)

Adran: Pres

Anrhydeddau: PhD; MMus; BMus (Anrh)

Cymwysterau

  • PhD, Royal Holloway, Prifysgol Llundain
  • MMus mewn Astudiaethau Perfformio (Cerddoriaeth) gyda Rhagoriaeth, Royal Holloway, Prifysgol Llundain
  • BMus (Anrh) Dosbarth Cyntaf, Prifysgol Caerdydd

Bywgraffiad

Gradd gyntaf Sarah oedd BMus (Anrh) ym Mhrifysgol Caerdydd, lle datblygodd ddiddordeb mewn ymchwil perfformio cerddoriaeth. Cwblhaodd MMus mewn Astudiaethau Perfformio Cerddoriaeth yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain, gan ddilyn hyn gyda PhD. 

Fel pianydd, mae Sarah wedi perfformio mewn sawl rhan o’r DU, yn enwedig ei hardal enedigol, De Cymru. Am flynyddoedd lawer, bu’n dysgu piano yn Conservatoire Iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac mae’n dal yn weithgar fel athrawes piano. Yn ogystal â’i swydd ffracsiynol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Sarah yn gweithio fel Arholwr Gradd a Diploma ar gyfer Bwrdd Cysylltiol yr Ysgolion Cerddoriaeth Brenhinol, rôl sydd wedi mynd â hi i’r Eidal, Malaysia a ledled y DU. 

Diddordebau ymchwil

Mae gan Sarah ddiddordeb mewn archwilio cysylltiadau rhwng perfformio a dadansoddi cerddoriaeth, yn enwedig mewn perthynas â cherddoriaeth piano a datblygu methodolegau newydd i ystyried natur gorfforol perfformiadau.  

Roedd ei PhD yn Royal Holloway, a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, yn canolbwyntio ar ddadansoddi a pherfformio gwead yng ngherddoriaeth piano Scriabin.

Addysgu

Mae Sarah ar y tîm addysgu ar gyfer nifer o fodiwlau cerddoriaeth israddedig ac ôl-raddedig ac mae hi hefyd yn goruchwylio amrywiaeth o brosiectau ymchwil a darlith-ddatganiadau. Mae hi’n mwynhau datblygu syniadau ar addysgu offerynnol yn y modiwlau addysgu ac ymgysylltu israddedig ac ôl-raddedig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Goruchwyliaeth ôl-raddedig

Mae Sarah yn awyddus i glywed gan ddarpar fyfyrwyr ymchwil doethurol sydd â diddordeb mewn pynciau sy’n ymwneud â pherfformio a dadansoddi neu addysgeg cerddoriaeth.

Proffiliau staff eraill