
Allie Edge
Uwch Ddarlithydd Cynhyrchu a Dylunio (Gwisgoedd)
Rôl y swydd: Ensemble Cysylltiol
Adran: Chwythbrennau

Mae Lumas Winds yn llysgenhadon ymroddedig dros gerddoriaeth siambr chwyth a’r amrywiaeth gyfoethog o repertoire y mae’n ei gynnig. Yn enillwyr Cystadleuaeth Royal Over-Seas League 2023, maent wedi hen sefydlu eu hunain yn un o ensembles ifanc blaenllaw’r DU, gan ymddangos yn rheolaidd mewn gwyliau a chlybiau cerddoriaeth ledled y wlad.
Rhyddhaodd Lumas Winds eu halbwm cyntaf, The Naming of Birds, ar label Champs Hill Records ym mis Mai 2024. Mae’r ddisg yn amlygu eu hangerdd fel eiriolwyr dros weithiau sy’n haeddu cydnabyddiaeth ac fe’i disgrifiwyd gan Andrew McGregor fel ‘arolwg rhagorol a hynod bleserus o bumedau chwyth Prydain o ddechrau’r 1960au hyd y ganrif hon’ (BBC Radio 3, Record Review). Rhoddir sylw i chwe thrysor cudd o bob degawd o 1960 i 2010 gan gynnwys recordiadau cyntaf byd-eang o waith Beamish, Higgins a Maconchy.
Ar hyn o bryd mae Lumas yn Artistiaid Ifanc gyda Chynllun Datganiadau Iarlles Munster yn ogystal â Chymdeithas Gyngherddau Kirckman, gyda’r olaf yn arwain at eu hymddangosiad cyntaf yn King’s Place yn Llundain. Cyn hyn roedd y grŵp yn Artistiaid Ifanc Ymddiriedolaeth Tunnell, a aeth â nhw ar daith o amgylch clybiau cerddoriaeth yr Alban ym mis Chwefror 2024; Artistiaid Ifanc Britten Pears, a roddodd breswylfa wythnos o hyd iddynt yn Snape Maltings, yn archwilio amryw o weithiau cyfoes gyda’r Qautuor Bozzini o Montreal, yn ogystal â pherfformiad o waith a gomisiynwyd o’r newydd gan y cyfansoddwr Marcello Palazzo; ac Artistiaid Ifanc Philip a Dorothy Green trwy Making Music.
Mae’r grŵp wedi ymddangos yng ngwyliau cerddoriaeth siambr Buxton, Gŵyr, Peasmarsh, Budleigh, Corbridge, Ironstone, Winchester, ac Ardal y Llynnoedd, yn ogystal â rhoi datganiadau yn St. George’s, Bryste a’r Brighton Dome. Maent wedi cydweithio â’r pianyddion Benjamin Frith, Huw Watkins a Jonathan Ferrucci yn Chwechawd Poulenc. Gwnaeth Lumas eu hymddangosiad cyntaf yn Neuadd Wigmore ym mis Mehefin 2023 yn chwarae La Nouvelle Orleans gan Lalo Schifrin, darn y maent yn parhau i’w hyrwyddo.
Mae Lumas Winds yn rhoi cyngherddau, sesiynau hyfforddi a phrofiadau perfformio ochr yn ochr yn CBCDC lle maent yn Ensemble Cysylltiol â’r adran chwythbrennau.