Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Thomas Verity

Rôl y swydd: Tiwtor Clarinét

Adran: Chwythbrennau

Gweld eu gwaith:

Bywgraffiad Byr

Mae gyrfa Thomas yn rhychwantu perfformiadau cerddorfaol, cerddoriaeth siambr, datganiadau unigol a phrosiectau recordio. Mae hefyd yn mwynhau addysgu a gwaith allgymorth, yn ogystal â chyfansoddi a byrfyfyrio.

Arbenigedd

Thomas yw prif glarinetydd Opera Cenedlaethol Cymru ac mae wedi perfformio fel prif glarinetydd gwadd gyda cherddorfeydd gan gynnwys y Philharmonia, Royal Opera House, Hallé, BBC Philharmonic, BBC Concert Orchestra, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Royal Northern Sinfonia. Bu'n aelod o'r Royal Liverpool Philharmonic Orchestra am saith mlynedd, ac yna blwyddyn fel Clarinetydd Cyswllt gyda'r Royal Philharmonic Orchestra yn Llundain.

Mae ei uchafbwyntiau ym maes cerddoriaeth siambr yn cynnwys gweithio gyda Stephen Hough mewn cyngerdd pumawd yn The Music Room (Liverpool Philharmonic Hall), a chyda'r Heath Quartet (a ddisgrifiwyd gan y BBC fel 'perfformiad o ddwyster tanbaid'). Mae ymddangosiadau eraill wedi cynnwys Bridgewater Hall ym Manceinion, a St Martin-in-the-Fields, St James’s Piccadilly a Queen Elizabeth Hall, Llundain. Disgrifiwyd recordiad Thomas o Sonata Clarinét Peter Hope (gwaith a gomisiynwyd ganddo) fel gwaith 'sensitif a chaboledig' (American Record Guide).

Dolenni i ymchwil / prosiectau perthnasol

Ac ar nodyn hollol wahanol, mae Thomas yn chwarae gyda Klezmer-ish, pedwarawd sy’n cyfuno cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth y byd. Mae eu perfformiadau wedi cynnwys ymweliadau niferus â The Music Room (Liverpool Philharmonic Hall), Bridgewater Hall ym Manceinion a Green Note yn Llundain. Roedd y grŵp yn artistiaid amlwg ar 'World on Three' BBC Radio 3, ac mae eu halbymau Music of the Travellers a Dusty Road (Riverboat Records) wedi'u disgrifio fel 'note perfect' (Songlines) a 'a joyous combination of playfulness and precision' (The Times).

Proffiliau staff eraill