Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Heini Hughes


Rôl y swydd: Llywydd Undeb y Myfyrwyr

Fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr CBCDC, rwy’n cynrychioli corff y myfyrwyr mewn amrywiaeth o gyfarfodydd, cynadleddau a digwyddiadau eraill. Yn y rôl hon rwy’n blaenoriaethu iechyd a lles myfyrwyr tra’n annog myfyrwyr i gydbwyso gweithio’n galed â mwynhau digwyddiadau cymdeithasol sy’n addas iddynt.

Cyn dechrau yn y rôl hon graddiais o’r cwrs BMus (Anrh) fel soprano clasurol gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn 2026. Ochr yn ochr â’m hastudiaethau rwy’n gweithio fel cantores lawrydd ac wedi datblygu angerdd dros wneud cerddoriaeth glasurol yn fwy hygyrch i gynulleidfaoedd modern. Rwy’n edrych ymlaen at barhau â’r gwaith hwn drwy gydol fy ngyrfa.

Proffiliau staff eraill