Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Krystal S Lowe

Rôl y swydd: Darlithydd Bale

Adran: Theatr Gerddorol

Gweld eu gwaith:

Bywgraffiad byr

Mae Krystal S. Lowe yn ddawnswraig, coreograffydd, awdur a chyfarwyddwr o Bermuda. Wedi ymgartrefu yng Nghymru, mae'n perfformio a chreu gweithiau theatr dawns ar gyfer llwyfan, gofod cyhoeddus a ffilm sy'n archwilio themâu hunaniaeth groestoriadol, lles a grymuso i herio ei hun a chynulleidfaoedd tuag at fewnwelediad a newid cymdeithasol. Mae hi'n angerddol am integreiddio mynediad ac archwilio gwaith amlieithog sy'n canolbwyntio ar Iaith Arwyddion Prydain, Cymraeg a Saesneg.

Cyflawniadau nodedig

Mae gan Krystal yrfa helaeth yn perfformio gyda Ballet Cymru gan deithio ledled y Deyrnas Unedig, Tsieina a Bermuda; gyda chwmni syrcas Citrus Arts, Ransack Dance, Theatr Iolo, Theatr Cymru, Fran Wen, ac Arad Goch. Fel artist llawrydd, hunan-gynhyrchiol, mae hi wedi perfformio yn yr Oriel Genedlaethol ar gyfer 'HOME zero' a grëwyd gan: Love Ssega, wedi'i gomisiynu gan Nesta ac Oriel Genedlaethol X; wedi'i gomisiynu gan Theatr Gerdd Cymru i greu’r Opera 'Somehow' ar gyfer y Sgrin; ac wedi teithio ei gwaith Remarkable Rhythm i Theatr Polka, Llundain a Chanolfan Ddiwylliant Zamek, Gwlad Pwyl. Fel coreograffydd, mae Krystal wedi gweithio gydag Opera Cenedlaethol Cymru, Theatr Sherman, Ballet Cymru, Arad Goch, Theatr Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, ac wedi cael ei chefnogi am yr 8 mlynedd diwethaf gan Gyngor Celfyddydau Cymru am ei gwaith hunan-gynhyrchiedig.

Dolenni i ymchwil/prosiectau (os yn berthnasol)

Gwyliwch gyd-gynhyrchiad Krystal gyda Ballet Cymru ‘Daughters of the Sea’

https://youtu.be/Yv3V23ssFQE

Proffiliau staff eraill