Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Charlotte McGregor-Graham

Rôl y swydd: Undeb y Myfyrwyr Is-lywydd – Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae’n astudio

BMus cyfansoddi 3edd flwyddyn.

Prif Gyfrifoldebau

Fi yw llais y myfyrwyr sy’n cael eu tangynrychioli, a’r rheini sydd â nodweddion gwarchodedig. Rydw i’n mynd ag unrhyw faterion at yr uwch dîm rheoli, yn gweithio i wella profiad myfyrwyr, ac yn cynnal fforymau i addysgu eraill.

Hoff ddigwyddiad yn yr Undeb

Mae gormod i ddewis o’u plith! Rydw i wrth fy modd â’r holl sioeau a chyngherddau y mae’r Coleg yn eu cynnal. P’un a yw’n sioe gerdd, opera, band pres neu jazz – mae rhywbeth i bawb.

Ddim yn gallu byw heb

Paned o de! Efallai fod hynny am fy mod yn dod o ogledd Lloegr, neu efallai fy mod i’n gaeth i gaffein... pwy a ŵyr...

Proffiliau staff eraill