
Lisa Hall
Tiwtor Rheoli Llwyfan
Rôl y swydd: Tiwtor Goleuo a Goruchwyliwr Goleuo Gwadd
Adran: Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol
Anrhydeddau: BA, TAR

Mae Elanor Higgins yn ddylunydd goleuo, addysgwr a mentor llawrydd gyda 30 mlynedd a mwy o brofiad proffesiynol. A hithau wedi graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae ganddi hefyd gymhwyster TAR mewn addysg ôl-orfodol ac mae hi wedi cwblhau hyfforddiant ILM mewn hyfforddi a mentora.
Mae Elanor yn gweithio yng Nghymru ac wedi creu dyluniadau goleuo ar gyfer theatr, opera, dawns, sioeau cerdd, theatr i blant, digwyddiadau a llwybrau golau awyr agored. Mae ei gwaith yn cwmpasu lleoliadau mawr, theatrau canolig, prosiectau safle-benodol a mannau a ddarganfuwyd. Mae hi wedi dylunio cynyrchiadau ledled y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys gwaith yn Iwerddon, Sbaen, Japan ac Awstralia.
Mae dyluniadau goleuo diweddar Elanor yn cynnwys:
‘Blaze of Glory!’, ‘Madam Butterfly’, ‘Rhondda Rips It Up’ – Opera Cenedlaethol Cymru
‘Macbeth’, ‘Hansel and Gretel’, ‘La Bohème’ – Opera Canolbarth Cymru
Cynhyrchiad ar draws y cyfryngau - ‘Galwad’ – National Theatre Wales / Collective Cymru
‘The Fight’, ‘Arandora Star’, ‘Eye of the Storm’, ‘The Ghost of Morfa Colliery’, ‘The White Feather’, ‘Halt’, ‘We Need Bees’ – Theatr na nÓg
‘Dawns y Ceirw’ (Japan 25), ‘Huw Fyw’, ‘Fy Enw i yw Rachel Corrie’, ‘Pryd Mae’r Haf?’, ‘Merched Caerdydd’, ‘Nos Sadwrn o Hyd’, ‘Hollti’, ‘Y Negesydd’, ‘Pridd’, ‘Chwalfa’, ‘Sgint’ – Theatr Cymru
‘Daughters of the Sea’ – Krystal Lowe & Ballet Cymru
‘Remarkable Rhythms’ – Krystal Lowe
‘Stick Man Live on Stage’, ‘Tiddler and Other Terrific Tales’ – Freckle Productions
Mae Elanor yn Gydymaith Creadigol i Theatr na nÓg. Mae ei gwaith i’w weld yn Women in Entertainment Lighting, sef cyhoeddiad rhyngwladol Light Collective. Mae hi wedi cyflwyno sgyrsiau yn PLASA 2023, PLASA Leeds 2026 a’r symposiwm goleuo rhyngwladol Showlight 2025.
Mae hi wedi goleuo nifer o gynyrchiadau sydd wedi ennill gwobrau ac mae hi’n parhau i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ddylunwyr goleuadau.