Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

David Baxter

Rôl y swydd: Arweinydd modiwl Rheolaeth yn y Celfyddydau

Adran: Rheolaeth yn y Celfyddydau

Bywgraffiad

Rheolwr prosiectau celfyddydau, cynhyrchydd ac ymgynghorydd llawrydd yw David. Yn flaenorol roedd yn Rheolwr Cyffredinol Theatr y Borough, lle arweiniodd waith adnewyddu mawr a datblygu rhaglen gymysg o waith proffesiynol a chymunedol. Sefydlodd hefyd raglen celfyddydau ieuenctid ledled y sir a chlwstwr celfyddydau gweledol. Yn gynharach, fel Pennaeth Arts Active yn Neuadd Dewi Sant a’r Theatr Newydd yng Nghaerdydd, arweiniodd waith addysg ac ymgysylltu a sefydlodd Rwydwaith Celfyddydau ac Addysg De Canolbarth Cymru.

Ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda Humans Move, Cwmni Theatr Fio, Theatrau Sir Gaerfyrddin a Theatr Ddawns Liam Wallace. Gyda phrofiad helaeth ar draws meysydd celfyddydau cymunedol ac addysg, mae wedi cydweithio â sefydliadau sy’n cgynnwys Welfare State International, Theatr y Royal Court a LIFT, ac wedi gwasanaethu ar fyrddau sawl sefydliad celfyddydau cymunedol.

Proffiliau staff eraill