Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Alex Merritt

Rôl y swydd: Tiwtor Sacsoffon

Adran: Jazz

Gweld eu gwaith:

Bywgraffiad Byr

Mae Alex yn athro sacsoffon a thiwtor gwadd sy'n cydlynu modiwl trawsgrifio yr ail flwyddyn, yn dysgu ar fodiwlau repertoire ac arddull a pherfformio ac yn rhoi gwersi un-i-un yn y coleg.

Arbenigedd

Mae gan Alex ddull unigryw fel byrfyfyriwr a chyfansoddwr; derbyniodd ei albwm cyntaf Anatta, sy'n cynnwys y drymiwr adnabyddus o America, Jeff Williams, ganmoliaeth gan y beirniaid fel 'ymddangosiad cyntaf addawol, o ansawdd trawiadol' gan John Fordham o'r Guardian a dyma ddywedodd Stephen Graham o Marlbank pan ryddhawyd yr albwm: ‘one of the best UK jazz recordings I’ve heard this year’. Mae Alex yn debygol o ddilyn hyn gydag albwm ar gyfer label mawreddog Fresh Sound New Talent sy'n cynnwys pumawd y mae Alex yn ei redeg ar y cyd â’r trwmpedwr blaenllaw, Steve Fishwick.

Ac yntau’n gartrefol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd cerddorol, mae Alex yn aml yn canfod ei hun mewn cyd-destunau jazz modern yn ogystal â cherddoriaeth fyrfyfyr ac amgylcheddau mwy trydydd ffrwd sy'n cyfuno jazz â cherddoriaeth glasurol gyfoes. Mae ei berfformiadau cyffrous diweddar yn cynnwys perfformiadau cyntaf o brosiect newydd ganddo yng Ngŵyl Jazz Llundain a thaith wedi’i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Lloegr a oedd yn cynnwys y pianydd blaenllaw o'r Almaen, Pablo Held, a cherddorion jazz blaenllaw y DU, Percy Pursglove, Oli Hayhurst a Joshua Blackmore a berfformiodd yn Ronnie Scott a The Vortex.

Gyda dull personol o addysgu sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cerddoriaeth cyffredinol pob myfyriwr yn ogystal â thechneg offerynnol, mae gwersi Alex hefyd yn integreiddio dulliau gwahanol o hyfforddiant y glust, gweithio gyda thrawsgrifiadau, sgiliau piano, sgiliau ymarfer yn greadigol â’r metronom a sgiliau rhythm.

Alex’s lessons often also integrate different approaches to ear training, work with transcriptions, piano skills and creative metronome practice and rhythm skills.

Proffiliau staff eraill