Caerdydd, prifddinas Cymru, yw un o ddinasoedd prifysgol mwyaf poblogaidd y DU, ac mae’n fwrlwm o egni creadigol ifanc.
Mae amrediad trawiadol o leoliadau celfyddydol, chwaraeon a diwylliannol y ddinas i gyd o fewn taith ar droed. Mae’r ddinas yn cyflwyno rhaglen llawn dychymyg o ddigwyddiadau a gwyliau, a chewch yr holl ddewisiadau bwyta, siopa a bywyd nos y byddech yn ei ddisgwyl mewn prifddinas Ewropeaidd ffyniannus.
Gyda’r sector creadigol yn ffynnu yng Nghymru, mae cyfleoedd cyffrous i’n myfyrwyr a’n graddedigion gael profiad a dod o hyd i waith. Mae Caerdydd yn gartref i gwmnïau celfyddydol cenedlaethol Cymru ac i ganolfan cynhyrchu drama fwyaf y BBC tu allan i Lundain.
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn chwarae rhan bwysig o fewn y strwythur diwylliannol ehangach hwn. Mae’n un o fannau perfformio mwyaf poblogaidd y ddinas, yn denu 60,000 o ymwelwyr y flwyddyn i’w berfformiadau a’i ddigwyddiadau ei hun. Mae hefyd yn chwarae rhan hollbwysig mewn cynnal y sector creadigol ehangach yng Nghymru a thu hwnt.

Canolfan Mileniwm Cymru
Mae Canolfan Mileniwm Cymru, sydd wedi’i lleoli ar lan y dŵr, bob amser yn fwrlwm o weithgareddau, gyda digwyddiadau sy’n amrywio o sioeau cerdd y West End, opera, bale a dawns gyfoes, hip-hop a chomedi, i arddangosfeydd a gweithdai celf.
Llun © Hawlfraint y Goron (Croeso Cymru)

Arcedau
Mae gan Gaerdydd arcedau hardd o Oes Fictoria sy’n llawn siopau unigryw, caffis, delicatessens a siopau dillad ‘vintage’. Mae marchnad dan do brysur a marchnadoedd awyr agored tymhorol eraill i’w cael yn y ddinas, yn ogystal â chanolfan siopa Dewi Sant gyda’i 150 o siopau, bwytai a chaffis.
Llun © Hawlfraint y Goron (Croeso Cymru)

Bae Caerdydd
Yn ystod yr haf bydd y bae yn llawn gweithgareddau ac yn gartref i ddigwyddiadau megis Gŵyl yr Harbwr, Traeth Bae Caerdydd, a’r Ŵyl Bwyd a Diod. Yn 2018, y bae oedd yr unig leoliad y DU ar gyfer Ras Cefnforoedd Volvo o amgylch y byd.
Llun © Ewch i Gaerdydd

Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd
Dyma gartref cwrs rafftio dŵr gwyn ar-alw cyntaf y DU lle gellir rafftio a chanŵio gydol y flwyddyn. Drws nesaf iddo mae pwll nofio maint Olympaidd y ddinas a chanolfan sglefrio iâ Viola Arena, sy’n gartref i dîm hoci iâ Diawled Caerdydd.
Llun © Kiran Ridley

Gŵyl y Gaeaf
Rhwng mis Tachwedd a mis Ionawr gweddnewidir y ganolfan ddinesig i fod yn brofiad gwirioneddol aeafol, gyda llwybr iâ, adloniant byw, olwyn fawr a chanolfan ‘après ski’.
Llun © Kiran Ridley

Stadiwm Principality
Lleoliad chwaraeon eiconig yng nghanol y ddinas sy’n cynnal gemau rygbi a phêl-droed, ynghyd â digwyddiadau Rasio Beiciau Modur a Monster Jam. Gellir hefyd trawsnewid y stadiwm 74,000-sedd hon yn lleoliad delfrydol ar gyfer cyngherddau – mae’r gigs diweddar wedi cynnwys Pink, Take That, Spice Girls ac Ed Sheeran.
Llun © Ewch i Gaerdydd

Castell Caerdydd
Sefydlwyd CBCDC (Coleg Cerddoriaeth Caerdydd yn flaenorol) yn y Castell ym 1949 a bu’n gartref i’r Coleg am 25 o flynyddoedd. Mae thema gerddorol yn parhau, gyda’r Castell yn cynnal llu o gyngherddau awyr agored yn cynnwys The Killers a’r Manic Street Preachers.
Llun © Ewch i Gaerdydd

Parciau
Mae Caerdydd yn ffodus iawn i gael toreth o barciau a gofodau gwyrdd – rydym yn meddwl bod dros 400 ohonynt ar draws y ddinas. Parc cyffiniol i’r Coleg yw Parc Bute – 130 erw o erddi wedi’u tirweddu a pharcdir a arferai fod yn dir Castell Caerdydd – ac sy’n adnabyddus fel ‘calon werdd’ y ddinas.
Llun © Hawlfraint y Goron (Croeso Cymru)

Bannau Brycheiniog
Os neidiwch ar fws gallwch fod yng nghanol y Parc Cenedlaethol hwn mewn ychydig dros awr. Mae yna lwybrau ar gyfer cerddwyr, rhedwyr a beicwyr, a hyd yn oed paragleidio ac abseilio.
Llun © Croeso Cymru

Arfordir
Os oes gennych ddiddordeb mewn syrffio, nofio, hwylio, ogofa dan ddaear a chanŵio, yna Cymru yw’r lle i fod. Mae mwy na 100 o draethau ar hyd ein harfordir, gyda 40 o draethau wedi cael statws Baner Las yn 2019.
Llun © Croeso Cymru

Tymor y Gwyliau
Mae misoedd yr haf yn llawn i’r ymylon o wyliau – Gŵyl y Llais, Gŵyl Dylunio Caerdydd, Gŵyl Gomedi Caerdydd, Pride Cymru, Y Dyn Gwyrdd a Gŵyl HUB.
Llun © Matthew Horwood
Dolenni Allanol
- Croeso Caerdydd
- Croeso Cymru – Caerdydd
- Lonely Planet – Caerdydd
- KAYAK – Caerdydd
- Rough Guides – Caerdydd
Nid yw CBCDC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.