Neidio i’r prif gynnwys

Crwydro Caerdydd

Efallai na fyddech chi’n meddwl hynny o ystyried ei maint, ond mae llawer iawn i’w wneud yn ein dinas fach. Felly, dewch i ymdrochi yn y diwylliant, mwynhau’r amrywiaeth o adloniant, neu dreulio amser yn ymlacio yn un o’n mannau naturiol hardd.

Lleoliadau

Ni fyddai Caerdydd yr un ddinas fywiog â’r un rydyn ni’n gyfarwydd â hi heb ei hamrywiaeth helaeth o ganolfannau celfyddydau, lleoliadau cerddoriaeth a theatrau. Gyda lleoliadau o ganol y ddinas i lan y dŵr. Mae pob un yn cynnig ei gelfyddyd unigryw ei hun i chi ei fwynhau. Tarwch olwg ar rai o’r lleoliadau a restrir isod.

Canolfannau Celfyddydau

Lleoliadau caerddoriaeth

Theatrau

Darganfod y Ddinas

Nid y diwylliant yn unig sy’n llawn at yr ymylon yn ein dinas fach; mae gennym ni ddigon i’w gynnig fel arall yng nghanol y ddinas. Un funud rydych chi yn yr arcedau siopa a’r nesaf rydych chi mewn parc gwyrdd sy’n llawn blodau a natur. Chewch chi mo hynny ym mhob dinas – a does gan bob dinas ddim castell enfawr yn ei chanol, chwaith!

Pethau i’w gwneud

Os oes un peth y gallwn fod yn sicr ohono, mae Caerdydd yn gwybod sut i gynnal noson allan heb ei hail. Mae canol y ddinas yn llawn bwytai, mannau poblogaidd i gael coctels, bariau jin a lloriau dawnsio i ddiwallu anghenion pawb. Cynhelir gwyliau gydag arlwy cyffrous a nifer o ddigwyddiadau chwaraeon drwy gydol y flwyddyn. Mae rhywbeth i’w wneud yn y brifddinas bob amser!

Yr Awyr Agored

Ydych chi’n barod am antur? Un o fanteision niferus Caerdydd yw ei bod wedi’i hamgylchynu gan natur hardd. Mae parciau cenedlaethol o fewn awr i ganol y ddinas ac mae milltiroedd ar filltiroedd o arfordir i'w archwilio, felly mae bob amser lle i ddianc rhag bywyd cosmopolitan y ddinas.


Archwilio’r adran