Theatr Gerddorol

Theatr Gerddorol

Mae amserlen heriol ‘wythnos wyth sioe’ llawer o swyddi ym maes Theatr Gerddorol, a gynhelir yn aml dros gyfnodau hir, yn gofyn am berfformiwr amryddawn sy’n ffit yn lleisiol ac yn gorfforol, ac yn hynod gymwys ym mhob disgyblaeth. Rhaid iddynt allu cyflwyno ystod eang o rinweddau ac arddulliau lleisiol yn ddiogel a hyderus, ynghyd â sgiliau symud, dawnsio ac actio da. 

Mae ein hyfforddiant dwys a throchol wedi’i wreiddio’n gadarn yn y diwydiant Theatr Gerddorol presennol ac yn eich arfogi i ddod yn weithiwr proffesiynol cyflawn a medrus yn holl agweddau integredig Theatr Gerddorol. Bydd dosbarthiadau rheolaidd mewn actio, canu, y llais llafar, dawns a symud yn rhedeg ochr yn ochr â phrosiectau a arweinir gan ymarferwyr allanol. Rydym yn integreiddio eich sgiliau yn llawn ar lefel broffesiynol ac yn eich galluogi i gymryd cyfrifoldeb am eich dyfodol creadigol. 

Rydym yn gosod ein myfyrwyr yng nghanol ein cymuned greadigol ac yn gweithio mewn cydweithrediad agos â’r adrannau actio, cerddoriaeth, cynhyrchu a chynllunio ac yn creu cyfleoedd i ddatblygu portffolio proffesiynol. 

‘Roeddwn i’n gwybod pan raddiais fy mod i eisiau gwthio ffiniau norm a stereoteipiau’r diwydiant. I mi, roedd hynny’n golygu cael fy nghastio mewn rolau nad ydynt yn gweddu i’m ‘castio’ nodweddiadol, ac i CBCDC y mae’r diolch am hynny. Y wers bwysicaf a ddysgwyd i mi yma oedd bod yn fi fy hun, diffygion a phopeth! Dysgais gofleidio’r hyn a welais fel amherffeithrwydd a’i ddefnyddio i sefyll allan. Dysgais ei fod yn fy ngwneud yn unigryw ac y dylid ei ddathlu.’ 

Caleb Lagayan, a raddiodd yn ddiweddar mewn Theatr Gerddorol  

Pam astudio Theatr Gerddorol yn CBCDC

  • Mae ein dosbarthiadau yn fach ac yn cynnwys carfannau a ddewiswyd â llaw i gyflwyno hyfforddiant dwys a throchol. Byddwch yn elwa o gael sylw unigol ac yn mwynhau perthynas waith agos â’ch cyfoedion. Mae hyn hefyd yn golygu bod amrywiaeth o gyfleoedd castio ar draws y rhaglen. 

  • Cymryd rhan mewn gwersi dawns bob dydd gan gynnwys Jazz, Tap, Bale yn ogystal â dosbarthiadau mewn symudiadau a ffurfiau dawns gyfoes i adlewyrchu gofynion y proffesiwn. 

  • Rydym yn cynnig gwersi canu technegol un-i-un rheolaidd a hyfforddiant llais yn ogystal â gwersi grŵp i ddatblygu eich techneg lleisiol a’ch repertoire. 

  • Mae gofalu am eich llais yn bwysig ac rydym yn rhoi’r offer i chi wneud hynny. Byddwch yn cymryd rhan mewn hyfforddiant llais Estill wythnosol gan unig Fentor a Hyfforddwr Cwrs Estill Cymru, Tim Richards. System sy’n canolbwyntio ar ddatblygu ymwybyddiaeth weithredol o sut mae’r llais yn gweithio yw Hyfforddiant Llais Estill, gan wneud cysylltiadau rhwng defnydd y cyhyrau a’r llais. 

  • Mae cyflogadwyedd yn y diwydiant theatr gerddorol cyfoes wrth wraidd yr hyn a gynigir gennym. Mae ein cyrsiau wedi’u modelu ar safonau’r diwydiant proffesiynol ac wedi’u llunio’n ofalus i’ch paratoi ar gyfer gwaith a gofynion newidiol y diwydiant theatr gerddorol sy’n ehangu’n gyflym ac yn gynyddol ryngwladol. 

  • Mae ein hadran wedi sefydlu cysylltiadau cryf gyda chyflogwyr blaenllaw, gweithwyr creadigol, asiantau a chyfarwyddwyr castio o’r diwydiant ac mae ein graddedigion diweddar wedi ymddangos mewn cynyrchiadau yn y West End gan gynnwys The Band’s Visit, Heathers, Jersey Boys, The Secret Garden, Phantom of the Opera, Bat out of Hell, Les Misérables, a hefyd nifer o gynyrchiadau teithiol ar raddfa lai gan gynnwys Hairspray, Blood Brothers, a Spring Awakening yn y DU a thramor. 

  • Mae adrodd storïau mewn modd dilys a chysylltiedig drwy integreiddio cerddoriaeth, actio a dawns yn allweddol, a byddwch yn cael eich arwain gan athrawon, perfformwyr ac ymarferwyr blaenllaw o fyd rhyngwladol Theatr Gerddorol. Dosbarthiadau meistr diweddar …. 

  • Mae cyfleoedd i berfformio yn flaenoriaeth; lle mae myfyrwyr yn dysgu drwy brofiad ymarferol mewn amrywiaeth o gyd-destunau gan gynnwys ein perfformiadau Cabaret rheolaidd poblogaidd yn y cyntedd yn ogystal â chynyrchiadau cyhoeddus ar raddfa lawn fel rhan o’n cwmni cynhyrchu mewnol, Cwmni Richard Burton. 

  • Byddwch yn hyfforddi yn ein cyfleusterau rhyfeddol, sy’n cynnwys bod yn goleg Steinway cyfan, stiwdios â lloriau sbring a drychau pwrpasol a nifer o fannau perfformio proffesiynol gan gynnwys ein neuadd gyngerdd o’r radd flaenaf a Theatr Richard Burton. 

  • Rydym yn ymgorffori cyfleoedd unigryw i chi archwilio eich cyfraniad unigol i’r broses greadigol drwy gyfres o brosiectau pwrpasol sy’n seiliedig ar berfformiad. Mae’r rhain yn cynnwys prosiectau Dulliau Actio, Actio Trwy Gân, Ysgrifennu Newydd, Stondinau Perfformio i Asiantau a rîl arddangos. 

  • Mae CBCDC wedi datblygu enw arbennig fel hyrwyddwr ysgrifennu newydd, ar ôl comisiynu a pherfformio dros 30 o ddramâu newydd. Mewn cydweithrediad â Musical Theatre Network, rydym yn cynnal diwrnodau cyflwyno blynyddol i ysbrydoli ac arddangos ysgrifennu newydd. Mae myfyrwyr wedi bod yn ymwneud ag ymchwil a datblygiad nifer o sioeau cerdd newydd gan gynnwys The Wicker Husband, a berfformiwyd am y tro cyntaf yn Theatr y Watermill yn gynharach eleni. 

Arweinir gan weithiwr proffesiynol o’r diwydiant  

Mae gyrfa berfformio’r Pennaeth Theatr Gerddorol Vivien Care yn cynnwys theatr gerddorol y West End, teithio yn y DU ac yn rhyngwladol, recordiadau stiwdio, ymddangosiadau ar deledu, cyngherddau, a gwaith radio. 

Mae hi wedi bod yn gysylltiedig mewn nifer o brosiectau ymchwil a datblygu ar gyfer gwaith gwreiddiol gan gynnwys Marguérite ar gyfer Boublil a Schönberg, gan arwain at ddiddordeb arbennig mewn ysgrifennu newydd ar gyfer theatr gerddorol. 

Mae uchafbwyntiau o ran perfformio yn cynnwys The Sound of Music Cwmni Opera D’Oyly Carte yn The London Palladium, a sawl tymor sefydlog yn Theatr Awyr Agored Regent’s Park gan gynnwys HMS Pinafore, The Boyfriend a High Society. Mae ymddangosiadau yn Les Misérables yn cynnwys yn Theatr y Palas a Theatr y Frenhines, y cynhyrchiad Sgandinafaidd Rhyngwladol, Cyngerdd Pen-blwydd Les Misérables yn 25 yn arena O2, a pherfformiad preifat yng Nghastell Windsor ar wahoddiad Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II. Yn 2020, dyfarnwyd swydd gyswllt yr Academi Gerdd Frenhinol (ARAM) i Vivien. 

  • Dysgu mwy am CBCDC
    • Mae ein sefydliad amlddiwylliannol ffyniannus yn croesawu 800 o fyfyrwyr o dros 40 o wledydd. Byddwch yn hyfforddi ochr yn ochr ag offerynwyr, actorion, cantorion, cyfansoddwyr a chynllunwyr ar gyfer perfformio eraill ac yn gweithio gyda hwy ar brosiectau drwy gydol y flwyddyn.
    • Mae cydweithio yn rhan enfawr o’r hyn a wnawn, gan eich galluogi i drochi mewn profiadau newydd gydag ystod eang o ddisgyblaethau a sgiliau o bob adran o’r Coleg. Mae ein cwmni REPCo unigryw a arweinir gan fyfyrwyr yn annog myfyrwyr i gydweithio i fod yn feiddgar, yn llawn dychymyg ac yn entrepreneuraidd.
    • Mae ein partneriaethau â diwydiant yn rhoi profiadau dysgu gwell yn y byd go iawn gyda sefydliadau celfyddydol a cherddorion proffesiynol blaenllaw, a hefyd yn cynnig cyfleoedd i chi ddatblygu eich rhwydweithiau proffesiynol ar gyfer y dyfodol.
    • Mae CBCDC yn ganolfan gelfyddydau brysur sy’n llwyfannu 500 o berfformiadau’r flwyddyn (llawer ohonynt am ddim) sy’n gyfuniad o artistiaid o’r radd flaenaf a gwaith myfyrwyr, yn aml ochr yn ochr. Mae digwyddiadau mawr rheolaidd yn CBCDC yn cynnwys Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC, BBC Canwr y Byd Caerdydd a digwyddiadau annibynnol fel Cyngres Telynau’r Byd ym mis Gorffennaf 2022.
    • Y Coleg yw’r conservatoire cyntaf yn y DU i gyflawni lefel safon aur o sicrwydd ansawdd ar draws meysydd Cerddoriaeth, Drama a Dan 18 yn adolygiad Gwella Ansawdd Cerddoriaeth rhyngwladol diweddar MusiQuE. Gwnaeth agwedd y Coleg o ran profiad myfyrwyr unigol, cydweithio amlddisgyblaethol ac uchelgais cyffredinol argraff arbennig ar yr adolygwyr, a nododd fod CBCDC yn enghraifft ddisglair o arfer gorau ar draws conservatoires Ewrop, ac yn adlewyrchu pobl eithriadol a chymuned unigryw’r Coleg. 
    • Fel yr unig gonservatoire Steinway cyfan yn y byd mae gan y Coleg bellach fflyd o bianos o’r radd flaenaf, ac mae pob piano acwstig yn y Coleg yn un Steinway.
    • Credwn yn sylfaenol yng ngrym cerddoriaeth i drawsnewid a chyfoethogi cymdeithas, gan ddatblygu sgiliau addysgu, hyfforddi a chyd-greu prosiectau i greu cerddorion y dyfodol a fydd yn gwneud argraff fel perfformwyr, athrawon a galluogwyr o fewn y gymuned ehangach. Mae cwestiynau sylfaenol - ‘Sut gallwn siapio diwydiant y dyfodol’, ‘Sut gallwn ddefnyddio celfyddyd i wneud gwahaniaeth’ – yn ein helpu i gynhyrchu cerddorion sy’n wirioneddol berthnasol i’r byd yr unfed ganrif ar hugain.
    • Byddwch yn ymarfer, yn astudio ac yn perfformio mewn lleoliad hyfryd a llawn ysbrydoliaeth sy’n ffinio â Pharc Bute, sef un o fannau gwyrdd mwyaf y ddinas. Mae gennym neuadd gerddoriaeth siambr gydag acwsteg hynod, cyntedd a man perfformio gwydrog, Theatr Richard Burton, yn ogystal â stiwdios a mannau rihyrsal o’r radd flaenaf.
    • Mae ein campws yng nghanol Caerdydd, Dinas Gerddoriaeth gyntaf y DU, a phrifddinas gartrefol a llewyrchus Cymru, sydd ond dwy awr ar y trên i ganol Llundain.
    • Cafodd Caerdydd ei henwi’n ddinas fwyaf cost-effeithiol yn y DU ar gyfer myfyrwyr, yn ôl Mynegai Byw Myfyrwyr NatWest 2022.

Cofrestrwch i Dderbyn Diweddariadau

I dderbyn rhagor o wybodaeth am astudio gyda ni, cofrestrwch isod.

Anfonir e-bost atoch yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Gwiriwch eich ffolder sbam / sothach os nad yw’r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau.

Cyrsiau

Diweddaraf o’r Blog

Mwy