Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

CBCDC Ifanc

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu talent ymhlith pobl ifanc a darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer dyfodol y diwydiannau creadigol sydd â manteision economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol enfawr i Gymru. Mae ein gwaith gyda phobl ifanc dan 18 oed yn cael ei ddatblygu’n barhaus ac mae gennym nifer o brosiectau cyffrous wedi’u hanelu at bobl ifanc.

Gweithdy rhyngweithiol cerddorol

Yma yn y Coleg, credwn fod cerddoriaeth ar gyfer pawb. Y gwanwyn hwn, rydym yn cyflwyno cyfres o ddiwrnodau offerynnol i bobl ifanc i gyffroi ac ysbrydoli. O sesiynau blasu i weithdai gydag artistiaid o'r radd flaenaf mae rhywbeth ar gyfer pob lefel. Cymerwch olwg ar yr hyn sydd...

Y Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol (NOYO)

Cerddorfa gynhwysol ac arloesol yw’r Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol (NOYO) lle mae cerddorion sy’n anabl ac nad ydynt yn anabl gwych rhwng 11-25 oed yn rihyrsio ac yn perfformio gyda’i gilydd.

Cyrsiau gwyliau yn y celfyddydau cynhyrchu

Rydym yn cynnig cyfleoedd i archwilio Theatr Dechnegol, Rheoli Llwyfan a Dylunio i bobl ifanc 11-18 oed.

Ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau

Mae gan y Coleg ymrwymiad dwfn i gyfoethogi’r dirwedd ddiwylliannol yng Nghymru a thu hwnt. Mae ymgysylltiad sylweddol ag ysgolion a chymunedau wedi’i wreiddio yn ein cyrsiau gradd, gan gynnwys drwy bartneriaethau â sefydliadau sy’n mynd i’r afael ag anfantais/amddifadedd cymdeithasol fel Making Music, Changing Lives yn Nhrelái, a Chanolfan Oasis yn Sblot.

Newyddion diweddaraf