I gael mynediad i gwrs MMus Perfformio Chwythbrennau Aml-offeryn, mae’n rhaid i chi wneud cais drwy UCAS Conservatoires. Mae’r gwasanaeth hwn yn eich galluogi i wneud cais i fwy nag un conservatoire a chadw golwg ar hynt a helynt eich cais ar-lein. Mae yna ffi untro o £27 i’w dalu i ddefnyddio UCAS Conservatoires.
I gychwyn cais newydd, ewch i UCAS Conservatoires: Ymgeisio a Thracio.
Cod Sefydliad UCAS Conservatoires ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw R59 a Chod y Cwrs ar gyfer MMus Perfformio Chwythbrennau Aml-offeryn yw 821F.
Dyddiadau ar gyfer Gwneud Cais
Ceisiadau’n agor | 15 Gorffennaf 2022 |
Ceisiadau’n cau | 3 Hydref 2022 |
Byddwn yn parhau i dderbyn ceisiadau ar ôl y dyddiad cau, ond byddant yn cael eu trin fel ceisiadau hwyr. Cysylltwch â’n Tîm Mynediadau cyn cyflwyno cais hwyr er mwyn gwirio a fydd gennym lefydd gwag ar ôl o hyd.
Clyweliadau
Ar gyfer mynediad ym mis Medi 2023, bydd gofyn i’r holl ymgeiswyr gyflwyno clyweliad i gefnogi eu cais. Dylid cyflwyno clyweliadau erbyn dydd Gwener 21 Hydref 2022.
Canllawiau ar gyfer Clyweliadau
Ewch i’n tudalen canllawiau clyweliad i gael manylion y broses glyweliad ar gyfer y cwrs hwn.
Ffioedd Clyweliadau
Mae ffi clyweliad o £63 ar gyfer un offeryn neu £84 ar gyfer dau offeryn.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu mynediad i hyfforddiant ar gyfer y myfyrwyr mwyaf talentog, waeth beth fo’u cefndir neu eu sefyllfa ariannol. Nod ein polisi hepgor ffioedd yw cynorthwyo ymgeiswyr y gall eu hamgylchiadau ariannol eu rhwystro rhag cael clyweliad.
Cymorth a Chyngor gan UCAS Conservatoires
- UCAS Conservatoires: cychwyn
- Llenwi eich cais ar gyfer UCAS Conservatoires
- Sut i ysgrifennu datganiad personol UCAS Conservatoires
- Cwestiynau cyffredin
- UCAS Conservatoires: myfyrwyr rhyngwladol
Os oes angen help arnoch gyda’ch cais, gallwch gysylltu â Thîm UCAS Conservatoires drwy ffonio 0371 468 0 470 (os ydych yn y DU) neu +44 330 3330 232 (os ydych y tu allan i’r DU).