Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Sut i ymgeisio - Cerddoriaeth

Popeth sydd angen i chi wybod am wneud cais i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

I gael mynediad i gwrs mae’n rhaid i chi wneud cais drwy UCAS Conservatoires. Mae’r gwasanaeth hwn yn eich galluogi i wneud cais i fwy nag un conservatoire a chadw golwg ar hynt a helynt eich cais ar-lein. Mae yna ffi untro o £27.50 i’w dalu i ddefnyddio UCAS Conservatoires.

I gychwyn cais newydd, ewch i UCAS Conservatoires: Ymgeisio a Thracio.

Cod Sefydliad UCAS Conservatoires ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw R59 a Chod y Cwrs ar gyfer BMus (Anrh) Cerddoriaeth yw.

Dyddiadau ar gyfer gwneud cais

Ceisiadau’n agor

12 Gorffennaf 2023

Ceisiadau’n cau

2 Hydref 2023

Clyweliadau

Ar gyfer mynediad ym mis Medi 2024, bydd gofyn i’r holl ymgeiswyr gyflwyno clyweliad i gefnogi eu cais. Dylid cyflwyno clyweliadau erbyn Dydd Llun 23 Hydref 2023. Ewch i’n tudalen canllawiau clyweliad i gael manylion y broses glyweliad ar gyfer y cwrs hwn.

Ffioedd clyweliadau

Mae ffi clyweliad o £63. 

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu mynediad i hyfforddiant ar gyfer y myfyrwyr mwyaf talentog, waeth beth fo’u cefndir neu eu sefyllfa ariannol. Nod ein polisi hepgor ffioedd yw cynorthwyo ymgeiswyr y gall eu hamgylchiadau ariannol eu rhwystro rhag cael clyweliad.

Archwilio cerddoriaeth