I gael mynediad i gwrs Diploma mewn Perfformio Llais i Raddedigion, mae’n rhaid i chi wneud cais drwy UCAS Conservatoires. Mae’r gwasanaeth hwn yn eich galluogi i wneud cais i fwy nag un conservatoire a chadw golwg ar hynt a helynt eich cais ar-lein. Mae yna ffi untro o £27 i’w dalu i ddefnyddio UCAS Conservatoires.
I gychwyn cais newydd, ewch i UCAS Conservatoires: Ymgeisio a Thracio.
Cod Sefydliad UCAS Conservatoires ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw R59 a Chod y Cwrs ar gyfer Diploma mewn Perfformio Llais i Raddedigion yw 506F.
Dyddiadau ar gyfer Gwneud Cais
Ceisiadau’n agor | 15 Gorffennaf 2022 |
Ceisiadau’n cau | 3 Hydref 2022 |
Byddwn yn parhau i dderbyn ceisiadau ar ôl y dyddiad cau, ond byddant yn cael eu trin fel ceisiadau hwyr. Cysylltwch â’n Tîm Mynediadau cyn cyflwyno cais hwyr er mwyn gwirio a fydd gennym lefydd gwag ar ôl o hyd.
Clyweliadau
Bydd gwybodaeth am glyweliadau ar gyfer mynediad ym mis Medi 2023 yn cael ei chyhoeddi ym mis Gorffennaf 2022.
Canllawiau ar gyfer Clyweliadau
Bydd canllawiau ar gyfer mynediad ym mis Medi 2023 yn cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2022.
Ffioedd Clyweliadau
Mae ffi clyweliad o £63.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu mynediad i hyfforddiant ar gyfer y myfyrwyr mwyaf talentog, waeth beth fo’u cefndir neu eu sefyllfa ariannol. Nod ein polisi hepgor ffioedd yw cynorthwyo ymgeiswyr y gall eu hamgylchiadau ariannol eu rhwystro rhag cael clyweliad.
Ysgoloriaethau
Mae gan y Coleg rai ysgoloriaethau ffioedd dysgu rhannol y gall myfyrwyr gael eu hystyried ar eu cyfer. Mae ysgoloriaethau ar gael ar sail teilyngdod ac angen. Os ydych yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer ysgoloriaeth, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais am ysgoloriaeth, byddwch yn derbyn gwybodaeth bellach unwaith y byddwch wedi derbyn cynnig i astudio. Sylwer y bydd ceisiadau am gymorth fel arfer yn fwy na’r cyllid sydd ar gael ac ni allwn gynnig cymorth ysgoloriaeth i bob myfyriwr.
Dim ond ymgeiswyr sy’n gwneud cais erbyn y dyddiad cau ac yn clyweld ym mis Hydref/Tachwedd 2022 fydd yn cael eu hystyried ar gyfer ysgoloriaeth.
Cymorth a Chyngor gan UCAS Conservatoires
- UCAS Conservatoires: cychwyn
- Llenwi eich cais ar gyfer UCAS Conservatoires
- Sut i ysgrifennu datganiad personol UCAS Conservatoires
- Cwestiynau cyffredin
- UCAS Conservatoires: myfyrwyr rhyngwladol
Os oes angen help arnoch gyda’ch cais, gallwch gysylltu â Thîm UCAS Conservatoires drwy ffonio 0371 468 0 470 (os ydych yn y DU) neu +44 330 3330 232 (os ydych y tu allan i’r DU).