Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

BA (Anrh) Actio

  • Dyfarniad:

    BA (Anrh) Actio

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    22 Medi 2024

  • Hyd:

    3 blynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    200F - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Yn y cwrs hyfforddiant ymarferol dwys hwn sy’n seiliedig ar berfformio, byddwch yn ennill y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa yn y maes theatr, sgrin a’r cyfryngau digidol.

Trosolwg o’r cwrs

Cewch ddilyn gyrfa broffesiynol mewn theatr, ffilm a theledu gyda’n rhaglen actio sy’n cyfuno hyfforddiant ymarferol yn seiliedig ar berfformio gyda hyfforddiant arbenigol a chwricwlwm cynhwysol sy’n dathlu lleisiau amrywiol, gwaith newydd a thestunau hanfodol y repertoire clasurol.

Gan weithio gydag ymarferwyr a hyfforddwyr o safon fyd-eang, byddwch yn meithrin ac yn ehangu eich cryfderau unigol, yn hytrach na mowldio eich hun i ddelfryd benodol.

Mae eich hyfforddiant yn dechrau drwy archwilio’r dulliau sylfaenol o ran actio trwy ddosbarthiadau ac ymarferion bob dydd, gan gynnwys ar gyfer gwaith ar y sgrin. Byddwch hefyd yn cael cyflwyniad trylwyr i waith llais a thestun, sgiliau symud a chanu.

Wrth i chi ddatblygu ymhellach yn eich hyfforddiant, byddwch yn ymestyn eich gallu lleisiol a chorfforol i weithio mewn amrywiaeth o genres ac amgylcheddau perfformio gwahanol. Mae prosiectau sy’n seiliedig ar berfformiad yn cyflwyno byd ac iaith Shakespeare, comedi, theatr gydweithredol ac wedi’i dyfeisio, trosleisio ac actio ar y radio. Mae hyfforddiant ychwanegol mewn actio ar y sgrin yn arwain at greu detholiad o ffilmiau byr.

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymuno â chwmni Theatr Richard Burton – ein cwmni theatr proffesiynol – ynghyd â’n myfyrwyr rheoli llwyfan, theatr dechnegol a dylunio. Byddwch yn cael eich castio mewn pum perfformiad cyhoeddus, ac mae un ohonynt yn ein tymor blaenllaw o ysgrifennu newydd wedi’i gomisiynu’n arbennig, sy’n cael ei berfformio yng Nghaerdydd a Llundain.

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn canolbwyntio ar fyd actio proffesiynol a’r strategaethau sy’n ofynnol ar gyfer dod o hyd i waith a’i reoli. Penllanw’r gwaith hwn yw arddangosfa’r actorion yng Nghaerdydd a’r West End yn Llundain i gynulleidfa wadd o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, gan gynnwys asiantau a chyfarwyddwyr castio. Gall y myfyrwyr hynny sy’n gymwys i weithio yn yr Unol Daleithiau hefyd gymryd rhan mewn arddangosfa yn yr Unol Daleithiau yn Efrog Newydd.

Tysteb

Roedd CBCDC yn ysgol ddelfrydol ar gyfer yr hyfforddiant hwnnw, ond hefyd i mi fel unigolyn. Mae wedi rhoi’r grym i mi fod yn actor cyflawn. Mae’n swydd mor amlweddog a’r hyn a wna’r Coleg mor wych yw eich trochi chi’n llwyr yn y cyfan. Mae cymaint o arbenigeddau yno, sy’n amrywio o radio i’r sgrin a phopeth yn y canol.
Callum Scott HowellsActor
'Mae’r prosiectau sy’n rhedeg drwy gydol y tair blynedd o hyfforddiant wir yn rhoi'r adnoddau, yr wybodaeth a’r meddylfryd sydd eu hangen arnoch i ymuno â’r diwydiant proffesiynol fel actor hyderus a medrus. Yr hyn sy’n gwneud y cwrs yn un mor uchel ei barch yn fy marn i yw ei gysylltiadau ag ymarferwyr blaenllaw yn y diwydiant sy’n ymweld â'r coleg, a’i staff actio craidd sydd â blynyddoedd maith o brofiad yn y Coleg a thu hwnt.

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw’r lle i fod os ydych chi am gael gyrfa ym maes actio.'
Aled GomerBA Actio 3edd Flwyddyn
'Yn amlwg, rydw i ychydig yn unochrog, ond rydw i wir yn credu ei bod yn un o'r ysgolion drama gorau sydd. Maen nhw’n gadael i chi fod yn chi eich hun a darganfod beth rydych chi’n rhagori ynddo.’
Sophie Melville yn The Stage

100

100% Boddhad cyffredinol y cwrs

Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) 2023

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Bydd eich hyfforddiant yn rhoi’r sgiliau ymarferol i chi weithio mewn amrywiaeth o gyfryngau: theatr, teledu, ffilm, gwaith sain ac amrywiaeth eang o dechnolegau a dulliau newydd blaengar.
  • Drwy sesiynau ymarfer myfyriol a chyd-destunol bob wythnos, byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o’r grefft a’r proffesiwn rydych wedi’i ddewis, gan greu pecyn cymorth ar gyfer goroesi fel actor yn y diwydiant.
  • Yn hytrach na glynu wrth unrhyw un athroniaeth o hyfforddi actor, mae ein cwrs yn ceisio dod â llawer o ddylanwadau i’ch gwaith, gan eich annog i wneud dewisiadau gwybodus am wahanol ddulliau.
  • Byddwch yn gweithio gydag ymarferwyr enwog, yn fewnol ac wrth ymweld, gan roi mynediad i chi at yr hyfforddwyr a’r gweithwyr proffesiynol gorau, yn ogystal â gwybodaeth eang ac uniongyrchol am actio mewn amrywiaeth o ddiwylliannau a chyd-destunau.
  • Yn y drydedd flwyddyn cewch gyfle i gymhathu, datblygu ac integreiddio’r sgiliau sydd wedi’u caffael yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, drwy rihyrsal a pherfformio cyfres o ddramâu hyd llawn mewn amgylchiadau gwaith proffesiynol, fel rhan o Gwmni Richard Burton.
  • Bydd un o’r perfformiadau hyn yn rhan o’n tymor drama NEWYDD. Byddwch yn gweithio gydag awdur, dramodydd a chyfarwyddwr proffesiynol yn y broses o ddrama wedi’i chomisiynu. Byddwch yn holi ac yn trafod y gwaith ysgrifennu yn ystod y flwyddyn flaenorol, gan ddechrau proses ddwys bum wythnos lle bydd y darn yn cael ei ymarfer a’i lwyfannu. Cynhelir y perfformiadau hyn yng Nghaerdydd cyn teithio i leoliad yn Llundain.
  • Byddwch yn manteisio ar lefel uchel iawn o sylw unigol gan eich tiwtoriaid. Mae eich tiwtorialau canu a llais yn cael eu dysgu un i un. Ni fydd gan eich dosbarthiadau actio fwy na 12 myfyriwr (ond yn aml byddwch yn gweithio mewn grwpiau o ddau neu dri ar astudiaethau golygfa penodol). Gall maint y cast amrywio, ond oherwydd maint y gwaith sy’n cael ei gynhyrchu gan yr adran ddrama, gall cynhyrchiad gael cyn lleied â thri aelod o’r cast – gan gynnig hyfforddiant hynod o fanwl i chi.
  • Mae eich carfan fach yn golygu bod eich tiwtoriaid wir yn dod i’ch adnabod chi – mae ganddyn nhw amser i fynd o amgylch yr ystafell ac addasu’r gwaith i bob corff, llais a dull dysgu unigol sy’n bresennol.
  • Er mwyn paratoi a darparu llwybr posibl ar gyfer gwaith ar ôl graddio, bydd eich carfan yn cyflwyno arddangosfa yng Nghaerdydd, Efrog Newydd (i fyfyrwyr o America) a'r West End yn Llundain. Gwahoddir cyflogwyr diwydiannol, cyfarwyddwyr castio ac asiantau i bob perfformiad a darparu – ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol eraill – dosbarthiadau meistr, gweithdai a chyfleoedd clyweliadau sy’n cael eu gyrru gan alwedigaeth.
  • Rydyn ni hefyd wedi cysylltu â’r diwydiant i weithio ar feithrin cysylltiadau rhwng ein myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, fel asiantau.
  • Byddwch yn gallu rheoli eich datblygiad artistig eich hun, wrth i ni eich hyfforddi i ddyfeisio a chreu eich gwaith eich hun – a berfformir yn y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn fel rhan o ŵyl fewnol. Yn y flwyddyn olaf, gallwch wneud cais i fod yn rhan o un o bedwar darn y byddwn yn eich helpu i’w wireddu fel cynhyrchiad llwyfan sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r tymor NEWYDD yng Nghaerdydd a Llundain.
  • Mae ein cysylltiadau rhagorol â’r diwydiant yn eich helpu i greu rhwydwaith o gysylltiadau ac mae’n cynnig profiad go iawn o weithio yn rhai o theatrau gorau’r wlad. Mae ymweliadau gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant fel mater o drefn yn fwy na 1,000 mewn unrhyw flwyddyn benodol.
  • Byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithdai (y Royal Shakespeare Company, Theatr Sherman a'r National Theatre Wales), gwyliau (Wannamaker), cystadlaethau (Carleton Hobbs a Spotlight) a gwobrau (Olivier, Gielgud a Bates).
  • Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn cymryd rhan mewn prosiect cydweithredol wedi’i gynllunio sy’n rhoi cyfle i chi weithio ochr yn ochr â cherddorion i greu darn theatrig sy’n ymgysylltu â’r gymuned.
  • Bydd drama deledu draddodiadol a gwaith ffilm yn cael eu dysgu ochr yn ochr â sgrin werdd, cipio symudiadau, disodli deialog awtomataidd (ADR), troslais a ffurf-fer. Bydd cyfleoedd i’ch gwaith ffilm gael llwyfan cyhoeddus hefyd – naill ai’n ddigidol neu wedi’i sgrinio’n fyw.
  • Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio mewn theatr, ffilm, teledu a radio – yn genedlaethol ac yn rhyngwladol – gyda nifer o fyfyrwyr yn cael eu henwebu ar gyfer gwobrau’r diwydiant, ac yn eu hennill. Mae ein cyn-fyfyrwyr nodedig yn cynnwys Anjana Vasan, Anthony Boyle, Tom Rhys Harries, Eric Kofi-Abrefa, Arthur Hughes, Anthony Hopkins, Callum Howells, Thalissa Teixeira, Edward Bluemel a Ruth Jones.

Gwybodaeth arall am y cwrs

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf