Rydym yn dal i dderbyn ceisiadau ar gyfer y cyrsiau BMus (Anrh) Cerddoriaeth (ar gyfer y llwybrau lleisiol, offerynnol a chyfansoddi) a BMus (Anrh) Jazz ar gyfer mynediad. Mae lleoedd yn amodol ar argaeledd. Cofiwch gysylltu â’n Tîm Mynediadau cyn cyflwyno cais.
Deffrowch eich creadigrwydd a’ch chwilfrydedd cerddorol i ddod yn gitarydd amryddawn gyda hunaniaeth artistig bwerus a’r sgiliau i ffynnu yn y byd proffesiynol presennol.
Pam astudio gitâr yn CBCDC?
- Mae ein dull personol yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i chi berfformio yn y Coleg ac mewn lleoliadau cyhoeddus allanol, yn ogystal â chymryd rhan mewn perfformiadau cerddoriaeth siambr cydweithredol a gweithio gyda gitaryddion iau yn y gymuned leol, gan eich annog i ddatblygu eich llais artistig unigol a chryf.
- Byddwch yn hyfforddi gyda cherddorion o fri sydd â degawdau o brofiad proffesiynol, gan gynnwys Pennaeth yr Adran, Helen Sanderson, a’n tiwtoriaid gwadd presennol, Zoran Dukić a John Mills.
- Bydd eich astudiaethau unawdol dwys yn cael eu cyfoethogi gan wersi unigol a dosbarthiadau meistr gan artistiaid gwadd nodedig. Ymhlith yr ymwelwyr diweddar mae Gabriel Bianco, Margarita Escarpa a Xuefei Yang, Pavel Steidel, Andrey Lebedev a Jørgen Skogmo.
- Mae cerddoriaeth siambr yn ganolog i’r hyn rydym yn ei wneud a byddwch yn gweithio ar y cyd â gitaryddion a cherddorion eraill mewn grwpiau bach, yn ogystal â sefyllfaoedd cerddoriaeth siambr mwy gyda hyfforddiant ac ymarferion wythnosol. Byddwch hefyd yn perfformio gyda’r adran gyfan yn ein hensemble gitâr sydd ag amserlen brysur o gyngherddau cyhoeddus.
- Elfen unigryw o’n rhaglenni yw’r cyfleoedd sylweddol ac amrywiol ar gyfer cydweithio ar brosiectau ar draws y Coleg. Mae’r adran gitâr yn meithrin creadigrwydd y tu hwnt i’ch astudiaethau unigol, gan ddatblygu gwaith gydag adrannau eraill, er enghraifft perfformio gyda’r elfen pypedwaith a gyda chyfansoddwyr. Mae hyn yn rhoi mewnwelediad i chi i weithrediad mewnol disgyblaethau artistig eraill a bod yn rhan o raglen gyhoeddus brysur CBCDC o berfformiadau opera, cyngherddau cerddorfaol, theatr gerddorol a dramâu gwobrwyedig.
- Bydd eich dosbarthiadau dawn gerddorol sy’n canolbwyntio ar y gitâr yn datblygu eich sgiliau trefnu ac yn rhoi cyfleoedd i chi archwilio arddulliau perfformio o’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen, gan gynnwys bas rhifolog, tabl nodiant liwt a thechnegau gitâr estynedig cyfoes.
Trefnu a chyfansoddi
Elfen allweddol o’r cwrs yw trefnu. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddatblygu’r sgiliau hyn, mewn theori ac ymarfer, gan y bydd eich portffolio o drefniannau’n cael ei gario ymlaen i’ch asesiad perfformiad siambr, gan roi defnydd ymarferol i chi o’r grefft hollbwysig hon. Gallwch hefyd ddatblygu eich arddull a’ch arbenigedd cyfansoddi - er enghraifft, mae gan rai o’n myfyrwyr ddarnau ysgrifenedig sydd wedi’u cynnwys ym meysydd llafur presennol arholiadau gitâr.
Sgiliau creadigol ac entrepreneuraidd
Mae angen cymaint o wahanol sgiliau ar gitaryddion sy’n gweithio yn y diwydiant heddiw, ac mae arwain gweithdai ac addysgu yn rhan hanfodol o’r set sgiliau honno. Byddwch yn naturiol yn datblygu rhai o’r sgiliau hyn yn ystod eich cyfnod yma, ond gallwch hefyd gymryd rhan mewn llawer o ddigwyddiadau gitâr penodol i fireinio’ch crefft yn y meysydd hyn.
Cawn ein gweld yn aml yn y gymuned leol yn gweithio gyda gitaryddion iau, a byddant hwy’n ymweld â ni yn y Coleg hefyd, gan roi’r profiad ymarferol a hanfodol hwnnw i chi o arwain y genhedlaeth nesaf o gitaryddion yma yng Nghymru.
Er enghraifft, mae’r adran wedi treulio’r ddau dymor diwethaf yn gweithio ar Twilight Guitar, prosiect sy’n dod â sgiliau tiwtora gitâr i athrawon cynradd nad ydynt yn arbenigwyr ac rydym nawr yn lansio cynllun peilot mewn dwy ysgol gynradd a fydd yn cael ei gefnogi a’i gyflwyno gan gitaryddion CBCDC, gan roi profiad addysgu amhrisiadwy iddynt. Enghraifft arall o’n dull creadigol ac entrepreneuraidd yw ein cydweithrediad ag ymchwilydd PhD i adeiladu prototeip ar gyfer gitâr hygyrch i alluogi’r rheini ag anabledd corfforol i chwarae’r offeryn.
Roedd Julian Bream hefyd yn gefnogwr hir a chyfrannodd lawer o sgorau gitâr, casgliad gwerthfawr o sgorau liwt a thraethodau, gitâr gyngerdd at ddefnydd yr adran, a rhan helaeth o’i gasgliad celf, sy’n cael ei arddangos yn ein Horiel Western lle rydym yn rihyrsio a pherfformio.
Arweinir gan berfformiwr ac addysgwr byd-enwog
Mae Helen Sanderson, Pennaeth Perfformio Gitâr, yn addysgwr, yn berfformiwr rhyngwladol, yn drefnydd, yn gyfansoddwraig, yn entrepreneur creadigol ac yn dderbynnydd Cymrodoriaeth Winston Churchill.
Mae ei gyrfa wedi canolbwyntio’n bennaf ar gerddoriaeth siambr, gyda pherfformiadau mewn mannau nodedig megis Canolfan Southbank, Kings Place a’r Guitar Foundation of America. Mae hi hefyd wedi recordio gyda cherddorion o fri megis Pedwarawd Gitâr VIDA, James Bowman a Mark Wilde.
Y tu allan i berfformio, gwahoddir Helen yn aml i eistedd ar reithgorau cystadlaethau gan gynnwys Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC, Cystadleuaeth Gitâr Ryngwladol Llundain a chyfres Sky Arts Guitar Star.
Wedi’i hysgogi gan yr angen i greu cyfleoedd ar gyfer gitaryddion ifanc, sefydlodd yr elusen addysg cerddoriaeth, Guitar Circus, cartref yr Ensemble Gitâr Ieuenctid Cenedlaethol a Gŵyl Gitâr Ieuenctid y Byd (y mae hi’n gyfarwyddwr artistig arnynt) – rolau lle mae hi wedi cael profiad amhrisiadwy mewn rheolaeth yn y celfyddydau. Mae Helen hefyd yn gyfarwyddwr The F-List, cyfeiriadur ar-lein sydd wedi’i sefydlu i gynrychioli, cefnogi ac ysbrydoli cerddorion female+.
-
Dysgu mwy am CBCDC
- Mae ein sefydliad amlddiwylliannol ffyniannus yn croesawu 800 o fyfyrwyr o dros 40 o wledydd. Byddwch yn hyfforddi ochr yn ochr ag offerynwyr, actorion, cantorion, cyfansoddwyr a chynllunwyr ar gyfer perfformio eraill ac yn gweithio gyda hwy ar brosiectau drwy gydol y flwyddyn.
- Mae cydweithio yn rhan enfawr o’r hyn a wnawn, gan eich galluogi i drochi mewn profiadau newydd gydag ystod eang o ddisgyblaethau a sgiliau o bob adran o’r Coleg. Mae ein cwmni REPCo unigryw a arweinir gan fyfyrwyr yn annog myfyrwyr i gydweithio i fod yn feiddgar, yn llawn dychymyg ac yn entrepreneuraidd.
- Mae ein partneriaethau â diwydiant yn rhoi profiadau dysgu gwell yn y byd go iawn gyda sefydliadau celfyddydol a cherddorion proffesiynol blaenllaw, a hefyd yn cynnig cyfleoedd i chi ddatblygu eich rhwydweithiau proffesiynol ar gyfer y dyfodol.
- Mae CBCDC yn ganolfan gelfyddydau brysur sy’n llwyfannu 500 o berfformiadau’r flwyddyn (llawer ohonynt am ddim) sy’n gyfuniad o artistiaid o’r radd flaenaf a gwaith myfyrwyr, yn aml ochr yn ochr. Mae digwyddiadau mawr rheolaidd yn CBCDC yn cynnwys Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC, BBC Canwr y Byd Caerdydd a digwyddiadau annibynnol fel Cyngres Telynau’r Byd ym mis Gorffennaf 2022.
- Y Coleg yw’r conservatoire cyntaf yn y DU i gyflawni lefel safon aur o sicrwydd ansawdd ar draws meysydd Cerddoriaeth, Drama a Dan 18 yn adolygiad Gwella Ansawdd Cerddoriaeth rhyngwladol diweddar MusiQuE. Gwnaeth agwedd y Coleg o ran profiad myfyrwyr unigol, cydweithio amlddisgyblaethol ac uchelgais cyffredinol argraff arbennig ar yr adolygwyr, a nododd fod CBCDC yn enghraifft ddisglair o arfer gorau ar draws conservatoires Ewrop, ac yn adlewyrchu pobl eithriadol a chymuned unigryw’r Coleg.
- Fel yr unig gonservatoire Steinway cyfan yn y byd mae gan y Coleg bellach fflyd o bianos o’r radd flaenaf, ac mae pob piano acwstig yn y Coleg yn un Steinway.
- Credwn yn sylfaenol yng ngrym cerddoriaeth i drawsnewid a chyfoethogi cymdeithas, gan ddatblygu sgiliau addysgu, hyfforddi a chyd-greu prosiectau i greu cerddorion y dyfodol a fydd yn gwneud argraff fel perfformwyr, athrawon a galluogwyr o fewn y gymuned ehangach. Mae cwestiynau sylfaenol - ‘Sut gallwn siapio diwydiant y dyfodol’, ‘Sut gallwn ddefnyddio celfyddyd i wneud gwahaniaeth’ – yn ein helpu i gynhyrchu cerddorion sy’n wirioneddol berthnasol i’r byd yr unfed ganrif ar hugain.
- Byddwch yn ymarfer, yn astudio ac yn perfformio mewn lleoliad hyfryd a llawn ysbrydoliaeth sy’n ffinio â Pharc Bute, sef un o fannau gwyrdd mwyaf y ddinas. Mae gennym neuadd gerddoriaeth siambr gydag acwsteg hynod, cyntedd a man perfformio gwydrog, Theatr Richard Burton, yn ogystal â stiwdios a mannau rihyrsal o’r radd flaenaf.
- Mae ein campws yng nghanol Caerdydd, Dinas Gerddoriaeth gyntaf y DU, a phrifddinas gartrefol a llewyrchus Cymru, sydd ond dwy awr ar y trên i ganol Llundain.
- Cafodd Caerdydd ei henwi’n ddinas fwyaf cost-effeithiol yn y DU ar gyfer myfyrwyr, yn ôl Mynegai Byw Myfyrwyr NatWest 2022.
Cofrestrwch i Dderbyn Diweddariadau
I dderbyn rhagor o wybodaeth am astudio gyda ni, cofrestrwch isod.
Anfonir e-bost atoch yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Gwiriwch eich ffolder sbam / sothach os nad yw’r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau.