

Astudiwch radd MMus yng nghonservatoire cenedlaethol Cymru | Cyrsiau ôl-raddedig | Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Astudiwch ôl-radd cerddoriaeth yng nghonservatoire cenedlaethol Cymru a mynd â’ch dawn artistig i’r lefel nesaf. Datblygwch eich sgiliau mewn perfformio, cyfansoddi neu arwain trwy hyfforddiant conservatoire arbenigol, cyfleoedd perfformio a chysylltiadau â’r diwydiant sy’n eich paratoi ar gyfer gyrfa gynaliadwy ym maes cerddoriaeth.
Gwnewch iddo ddigwydd - Byddwch y cerddor rydych chi am fod
Astudiwch am MMus (gradd Meistr mewn Cerddoriaeth) yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a throchwch eich hun mewn profiad conservatoire dwys sydd wedi’i gynllunio ar gyfer eich datblygiad artistig. P’un a ydych yn arbenigo mewn perfformio, cyfansoddi neu arwain, mae ein graddau ôl-raddedig cerddoriaeth yn cyfuno hyfforddiant un-i-un, cyfleoedd rheolaidd i berfformio a chydweithio ag artistiaid a sefydliadau celfyddydol blaenllaw.
Datblygwch eich llais artistig, dyfnhewch eich ymarfer unigol a graddio gyda’r sgiliau, y profiad a’r hyder i ffynnu fel cerddor proffesiynol.
Pam dewis CBCDC?
Addasu eich MMus i’ch dyheadau
Datblygwch eich sgiliau arbenigol a’ch hunaniaeth artistig trwy raglen hyblyg wedi’i chynllunio o amgylch eich diddordebau, cryfderau a nodau ar gyfer gyrfa.
Dysgu gan gerddorion ac artistiaid sy’n ymarfer
Astudiwch gyda cherddorion, cyfansoddwyr, arweinwyr ac ymarferwyr proffesiynol sy’n dod â phrofiad helaeth o ddiwydiannau cerddoriaeth y DU a rhyngwladol i’ch hyfforddiant.
Adeiladu eich profiad perfformio
Cymerwch ran mewn cyfleoedd perfformio a chreadigol amrywiol, o gerddoriaeth unawdol a siambr i brosiectau cerddorfaol, opera a chydweithredol.
Cydweithio ar draws disgyblaethau
Gweithiwch ochr yn ochr â myfyrwyr ac ymarferwyr ar draws meysydd cerddoriaeth a drama, gan ddatblygu’r sgiliau creadigol a chydweithredol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa bortffolio gynaliadwy.
Dysgu gan artistiaid blaenllaw
Cymerwch ran mewn dosbarthiadau meistr, gweithdai a phrosiectau gydag artistiaid gwadd a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, a chysylltu â cherddorion sy’n gweithio ar y lefelau uchaf yn y proffesiwn.
Adeiladu eich rhwydwaith proffesiynol
Datblygwch gysylltiadau gwerthfawr trwy bartneriaethau CBCDC â sefydliadau celfyddydol blaenllaw, gan gynnwys cyfleoedd i weithio ochr yn ochr â cherddorion o sefydliadau megis Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Opera Cenedlaethol Cymru.
Perfformio mewn cyfleusterau rhagorol
Datblygwch eich ymarfer mewn mannau arbenigol gan gynnwys Neuadd Dora Stoutzker, gyda chyfleoedd i berfformio o fewn y Coleg ac mewn lleoliadau allanol.
Cymerwch olwg ar rai o'n cyrsiau ôl-raddedig

MMus Perfformio Cerddorfaol

MMus Perfformio Opera

MMus Piano Cydweithredol

MMus Cyfansoddi

MMus Arwain Corawl

MMus Perfformio Cerddoriaeth

MMus Arwain Band Pres

MMus Perfformio Chwythbrennau Aml-offeryn

Cerddoriaeth
Beth ddywed ein myfyrwyr
‘Mae'r Coleg yn teimlo fel lle i ymchwilio’n fanwl i sut beth fydd dyfodol cerddoriaeth, yn ei holl ffurfiau, gan ofyn cwestiynau pwysig ein cyfnod am gerddoriaeth a drama.'Errollyn WallenCyfansoddwr Preswyl
Astudiwch gerddoriaeth yng Nghaerdydd - prifddinas Cymru

Byw yng Nghaerdydd

Crwydro Caerdydd

Llety yng Nghaerdydd
Cofrestrwch i dderbyn rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau MMus
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy








