Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Astudiwch gerddoriaeth mewn conservatoire cerddoriaeth blaenllaw yn y DU | Gwnewch gais am gyrsiau BMus 2026 | Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Astudiwch yn conservatoire cerddoriaeth cenedlaethol Cymru. Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau 2026 bellach ar agor. Mae ein graddau BMus (Anrh) mewn perfformio, cyfansoddi a jazz wedi'u cynllunio i'ch paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus, gynaliadwy yn y byd cerddoriaeth – gwireddwch eich uchelgais yn CBCDC.

Lansiwch eich gyrfa gerddorol mewn conservatoire blaenllaw yn y DU


Hyfforddwch yn CBCDC, conservatoire cenedlaethol Cymru sy'n cynnig graddau BMus proffesiynol (Anrh) gyda chyfleoedd di-ri i berfformio ac astudio mewn conservatoire blaenllaw, sy’n canolbwyntio ar yrfa.

P'un a ydych chi'n offerynnwr clasurol, cerddor jazz, cyfansoddwr, canwr neu gantores, byddwch yn datblygu'r sgiliau, yr hyder a'r llais artistig sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa gerddorol lwyddiannus.

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod am ein cyrsiau BMus (Anrh) Cerddoriaeth

Pam dewis CBCDC?

  • Astudio yn conservatoire cerddoriaeth cenedlaethol Cymru, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd – un o brifddinasoedd mwyaf bywiog a fforddiadwy y DU.
  • Dysgu yng nghwmni cerddorion, cyfansoddwyr a chyfarwyddwyr proffesiynol sy'n gweithio'n broffesiynol ar frig y diwydiant cerddoriaeth yn y DU a rhyngwladol.
  • Rydym yn canolbwyntio ar eich gyrfa gerddorol – gan eich meithrin i ddatblygu eich sgiliau fel artist unigol a gydag eraill – sy’n hanfodol i ddatblygu gyrfa a phortffolio lwyddiannus yn y byd modern.
  • Mynediad at ddosbarthiadau meistr a gweithdai gydag artistiaid gwadd o'r radd flaenaf.
  • Perfformio yn ein cyfleusterau o'r radd flaenaf gan gynnwys Neuadd Dora Stoutzker.
  • Meithrin cysylltiadau â'r diwydiant trwy leoliadau a phartneriaethau gyda sefydliadau celfyddydol blaenllaw y DU.

Beth ddywed ein myfyrwyr

'Yr hyn sydd mor ganolog i fywyd yn y CBCDC yw'r syniad bod mwy i’r gerddoriaeth rydyn ni'n ei gwneud na dim ond ei chwarae, mae'n ymwneud â phwy ydych chi a'r hyn rydych chi'n ei gyfranno ati.'
Elizabeth BonsellBMus
'Mae cael cyfle i ddysgu gan gyd-gerddorion ar frig y sin gerddorol ym Mhrydain ac Ewrop ochr yn ochr â chefnogaeth cyd-fyfyrwyr, wedi bod yn amhrisiadwy i fy natblygiad unigol, nid yn unig fel gweithiwr proffesiynol ond hefyd fel ffrind a mentor.'
Sam GreenBmus Jazz
'Ers i mi ddechrau'r cwrs, rydw i wedi dysgu gwneud pethau nad oeddwn erioed wedi meddwl y gallwn eu gwneud - fel cyfansoddi electronig neu synthesis sain. Bob dydd rwy'n dysgu rhywbeth defnyddiol ac mae fy mhecyn cyfansoddi yn ehangu'n gyson.'
Anna DrewniokBMus Cyfansoddi
'Roeddwn i'n ffodus i allu cydweithio ar draws holl adrannau'r Coleg, ac fe wnes i lawer o gysylltiadau ledled y DU cyn graddio. Rydw i wir wedi elwa o'r holl gyfleoedd a roddwyd i mi.'
George RobinsonBmus
'Yr hyn rydw i'n ei hoffi am Gaerdydd a'r Coleg yw ei fod yn lle cynhwysol iawn i astudio, sydd wedi fy helpu i deimlo'n gyfforddus ac yn agored am fy hunaniaeth. Rydw i mor falch o fod yn rhan o Goleg a dinas lle rwy'n teimlo bod amrywiaeth yn cael ei groesawu, lle galla i fod yn rhydd i fod yn fi fy hun, a lle mae fy noniau’n cael eu cydnabod a'u dathlu.'
Mica SmithGraddedig
‘Mae'r Coleg yn teimlo fel lle i ymchwilio’n fanwl i sut beth fydd dyfodol cerddoriaeth, yn ei holl ffurfiau, gan ofyn cwestiynau pwysig ein cyfnod am gerddoriaeth a drama.'
Errollyn WallenCyfansoddwr Preswyl