
BMus (Anrh) Cerddoriaeth – Offerynnol a Lleisiol
Cyfle i hyfforddi ochr yn ochr â cherddorion gorau’r byd mewn awyrgylch ysbrydoledig a chydweithredol sy’n eich helpu i fodloni gofynion gyrfa gerddorol gyfoes.
Rhagor o wybodaeth
Darganfyddwch eich dyfodol yn y byd cerddoriaeth yn CBCDC – conservatoire cerddoriaeth cenedlaethol Cymru. Edrychwch ar ein graddau israddedig BMus mewn perfformio cerddoriaeth, cyfansoddi a jazz.
Hyfforddwch yn CBCDC, conservatoire cenedlaethol Cymru sy'n cynnig graddau BMus proffesiynol (Anrh) gyda chyfleoedd di-ri i berfformio ac astudio mewn conservatoire blaenllaw, sy’n canolbwyntio ar yrfa.
P'un a ydych chi'n offerynnwr clasurol, cerddor jazz, cyfansoddwr, canwr neu gantores, byddwch yn datblygu'r sgiliau, yr hyder a'r llais artistig sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa gerddorol lwyddiannus.
‘Mae'r Coleg yn teimlo fel lle i ymchwilio’n fanwl i sut beth fydd dyfodol cerddoriaeth, yn ei holl ffurfiau, gan ofyn cwestiynau pwysig ein cyfnod am gerddoriaeth a drama.'Errollyn WallenCyfansoddwr Preswyl