David Childs
Tiwtor Gwadd Rhyngwladol i’r Ewffoniwm a’r Bariton
Rôl y swydd: Pennaeth Arwain Corawl
Adran: Arwain
Andrea yw arweinydd Tippett Voices, Côr Siambr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Corws Gŵyl Caerwysg, a Chôr Siambr Gwlad yr Haf. Bydd yn gweithio’n rheolaidd fel arweinydd gydag ensembles eraill gan gynnwys Cantorion y BBC, The Festival Chorus, Côr Oriana Llundain, Fourth Choir, Cerddorfa Gyngerdd y BBC a Cherddorfa Ffilharmonig Llundain. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys cyngherddau ym Mhrâg a Berlin, ‘Dream of Gerontius’ Elgar yn Eglwys Gadeiriol Caerwysg, ‘Requiem’ Mozart yng Ngŵyl Leeds Lieder a’r ‘Memorial’ gyda Tippett Voices yng Nghanolfan Barbican, Llundain, a ganmolwyd yn fawr gan y beirniaid. Yn fwyaf diweddar, hi oedd Arweinydd a Chyfarwyddwr Cerdd rhaglen glodwiw ‘The Paradis Files’, comisiwn gan Errollyn Wallen gyda Cherddorfa Gyngerdd y BBC a Chwmni Theatr Graeae, gyda’r perfformiad premiere byd a darllediad Radio 3 o Neuadd y Frenhines Elizabeth a thaith wedi hynny o amgylch DU.
Andrea yw Pennaeth Arwain Corawl Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan arwain ac addysgu ar y rhaglenni ôl-radd. Ar hyn o bryd mae’n Athro Gwadd Arwain Corawl yn Academi Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio Janacek, Czechia, ac yn Arholwr Arwain Corawl Cyswllt yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Llundain. Cyd-sefydlodd y rhaglenni Arweinwyr Benywaidd a Wavelength gwobrwyedig, y ddwy wedi’u bwriadu i annog, addysgu a hyrwyddo menywod yn y proffesiwn arwain. Mae Andrea yn cadeirio rheithgorau mewn cystadlaethau corawl ac yn cynnal dosbarthiadau meistr ar gyfer corau ac arweinwyr yn y DU a thramor.
Yn Soprano proffesiynol yn flaenorol, mae Andrea wedi perfformio a recordio yn rhai o neuaddau cyngerdd gorau’r byd gydag amrywiaeth o ensembles o’r radd flaenaf, gan gynnwys Academy of Ancient Music, Chapelle du Roi, Ex Cathedra a Coro Cervantes. Mae ei pherfformiadau operatig a chyngherddau yn cynnwys Opera Chatelet, Shakespeare’s Globe, Gŵyl Ryngwladol Split, Gŵyl Spitalfields, Gŵyl Gerddoriaeth Gynnar Utrecht a Proms y BBC.
Mae Andrea yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau ac fe’i hetholwyd yn Gydymaith yr Academi Gerdd Frenhinol i gydnabod ei chyfraniad sylweddol i’r maes.