David Childs
Tiwtor Gwadd Rhyngwladol i’r Ewffoniwm a’r Bariton
Rôl y swydd: Tiwtor gwadd
Adran: Gitâr
Zoran Dukic yw un o gitaryddion clasurol mwyaf nodedig ein hoes. Graddiodd o Academi Gerdd Zagreb gyda Darko Petrinjak a chwblhaodd ei astudiaethau gyda Hubert Käppel yn Hochschule für Musik yng Nghwlen. Mae ei berfformiadau ar draws y pum cyfandir wedi cynnwys datganiadau mewn lleoliadau mawreddog fel Carnegie Hall (Efrog Newydd), Neuadd Tchaikovsky (Mosgo), Palau de la Musica (Barcelona), a’r Concertgebouw (Yr Iseldiroedd).
Fel addysgwr, mae Zoran wedi addysgu cenedlaethau o gitaryddion clasurol ifanc ac mae ganddo un o ddosbarthiadau mwyaf llwyddiannus Ewrop yn y Royal Conservatoire yn yr Hag. Ac yntau’n flaenorol wedi addysgu yn yr Escuela Superior yn Barcelona ac yn yr Hochschule für Musik yn Aachen, mae Zoran hefyd yn gerddor siambr gweithgar ac yn un o’r aelodau a sefydlodd Bedwarawd Gitâr Ewrop a Phedwarawd Gitâr Croatia, ac mae’n chwarae fel deuawd gydag Aniello Desiderio. Mae wedi recordio CDs i labeli yn yr Almaen, Sbaen, Gwlad Belg, Brasil a Chanada.
Pan oedd ar flaen y gad yn cystadlu, enillodd Zoran nifer rhyfeddol o gystadlaethau, ac ef yw’r unig gitarydd i ennill y ddwy gystadleuaeth ‘Andres Segovia’ yn Granada a Palma de Mallorca. Enillodd gystadlaethau hefyd yn enw ‘Fernando Sor’, 'Manuel Ponce’, ‘Manuel de Falla’, a ‘Francisco Tarrega’. Ym mhrif gystadleuaeth gitâr Sbaen ym Madrid, a noddir gan y Teulu Brenhinol, dyfarnwyd y wobr gyntaf iddo yn ogystal â’r wobr arbennig am y dehongliad gorau o gerddoriaeth Sbaenaidd; y tro cyntaf erioed iddi gael ei dyfarnu i rywun nad yw’n dod o Sbaen.
‘451’ o ‘Cinema Paradiso’ gan Stephen Goss wedi’i berfformio gan Zoran Dukić
Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
Invierno Porteño, gan Astor Piazzolla, wedi’i chwarae gan Zoran Dukic.
Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.