Mary Condliffe
Tiwtor Bas Dwbl
Rôl y swydd: Is-lywydd, Lles
Rwy’n fyfyrwraig Llais sy’n dilyn cwrs Meistr, ac rydw i wedi bod yn CBCDC ers pum mlynedd erbyn hyn. Rwy’n teimlo’n gyffrous iawn wrth gamu i’r rôl yma, gan fy mod yn adnabod cymuned y coleg yn dda ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at gyflwyno syniadau newydd yn ymwneud â lles myfyrwyr. Byddaf yn canolbwyntio’n bennaf ar wella cyfathrebu rhwng staff a myfyrwyr, meithrin parch yn ein cymuned, a gwneud ein coleg mor hygyrch ag sy’n bosibl.
Fel Is-lywydd Lles, rwy’n gobeithio bod yn seinfwrdd da i syniadau myfyrwyr ynglŷn â sut y gallwn wneud y profiad o fod yn y coleg yn un pleserus i bawb.