Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Laura Martin

Rôl y swydd: Darlithydd Celf Golygfeydd

Adran: Cynllunio

Bywgraffiad

Graddiodd Laura o CBCDC yn 2001 gyda gradd BA Anrh mewn Astudiaethau Theatrig (Dylunio). Ers graddio, bu galw mawr am waith Laura fel artist golygfeydd, gwneuthurwr propiau ac adeiladwr setiau llawrydd mewn llawer o theatrau adnabyddus ledled y Deyrnas Unedig.

Mae gan Laura ddiddordeb brwd mewn creu a hynny mewn llawer o ddisgyblaethau, gan gynnwys golygfeydd, propiau, pypedau a gwaith lledr traddodiadol o’r ansawdd uchaf.

Arbenigedd

Prif feysydd arbenigedd Laura yw elfennau golygfaol tri dimensiwn lle mae angen ffurf a gwead i ail-greu arwynebau realistig a golygfeydd naturiolaidd.

Mae Laura hefyd yn adnabyddus am ei gwaith yn creu pypedau a mygydau, yn arbennig pan fo angen rhannau symudol a mecanweithiau, ac mae wrth ei bodd yn creu propiau lle mae angen datrys problem.

Cyflawniadau Nodedig

Mae gwaith Laura wedi ymddangos ar lwyfannau ledled y byd gyda chwmnïau theatr fel The Watermill, National Theatre Wales, Cameron Mackintosh Productions a llawer mwy. Mae ei gwaith ym myd ffilm a theledu yn cynnwys gwaith i’r BBC, ITV, Channel 4, Searchlight Pictures, Walt Disney Studios a Warner Bros.

Proffiliau staff eraill