Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Owen Lloyd

Rôl y swydd: Darlithydd mewn Cyfansoddi gyda Thechnoleg Cerddoriaeth Greadigol

Adran: Cyfansoddi a Thechnoleg Cerddoriaeth Greadigol

Anrhydeddau: PhD Celf Sonig ym Mhrifysgol Bath Spa; MA mewn Technoleg Cerddoriaeth Greadigol yn Bath Spa; BA Anrh mewn Celfyddyd Gain yn UWE

Gweld eu gwaith:

Bywgraffiad Byr

Mae Owen Lloyd yn gyfansoddwr, artist sain, dylunydd ac ymchwilydd sydd â ffocws ar gydweithio rhyngddisgyblaethol sy’n integreiddio celf, gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae’n Gymrawd Ymchwil yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru – conservatoire cenedlaethol Cymru – lle mae’n addysgu cyfansoddi ers 2012.

Mae ei waith wedi’i berfformio a/neu ei gyflwyno’n rhyngwladol, gan gynnwys yn Fact Liverpool, Goldsmiths, The Bartlett, Prifysgol Oxford Brookes, University of the West of England, Prifysgol Bath Spa, Prifysgol Concordia a Gŵyl Ffilmiau Braunschweig, ac ymddangosodd yn rhan o Wythnos Ffasiwn Milan. Arddangoswyd ei waith yn Exeter Phoenix ac Acud Macht Neu, Berlin, ymhlith lleoedd eraill.

Arbenigedd

Cyfansoddi - electroacwstig, electronig, dawns; Cyfansoddi cynhyrchiol; Celf sain; Gosodiadau; Dylunio sain; Recordio maes; Synthesis modwlar; Max

Cyflawniadau Nodedig

Mae gyrfa fasnachol hir Owen fel cyfansoddwr a dylunydd sain llawrydd wedi golygu ei fod wedi gweithio ar brosiectau sydd wedi ennill gwobrau, gan gyflawni ar draws amryw gyfryngau gan gynnwys teledu, ffilm, gosodiadau pensaernïol, darnau amgueddfa a chonsolau gemau. Mae ei gleientiaid yn cynnwys Adidas, BBC, BMW, IBM, Leica, Sony, Y GIG, Red Bull, The Science Museum a Sony.

Cwblhawyd ei PhD mewn Celf Sonig yn 2015 o dan oruchwyliaeth yr Athro Joseph Hyde, Dr Andy Keep a’r Athro James Saunders.

Proffiliau staff eraill