Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Natalie Roe

Rôl y swydd: Aelod y Bwrdd

Cyfansoddwr a pherfformiwr o Gaerdydd yw Llywydd Undeb Myfyrwyr CBCDC, Natalie Roe, a raddiodd ym mis Gorffennaf 2022 gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Cyfansoddi. Gan ddatblygu ei chrefft ar gyfer cerddoriaeth acwstig ac electronig mewn amrywiaeth o genres, mae ei cherddoriaeth wedi’i pherfformio gan gerddorfeydd fel Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Band y Gwarchodlu Cymreig ac wedi’i chlywed yn y ffilm fer PARKLIFE ar BBC 2 Wales. Mae Natalie yn parhau â’i hoffter o berfformio ar y piano a’r ffliwt ac yn gweithio fel actor-gerddor yn y cwmni theatr i blant The Flying Bedroom, y gwnaeth hefyd gyfansoddi’r gerddoriaeth ar ei gyfer - gan deithio o amgylch llawer o wyliau ac ysgolion yng Nghymru.

Mae Natalie yn hynod frwd dros gerddoriaeth electronig, gan astudio Technoleg Cerddoriaeth yn Academi Sibelius yn Helsinki, y Ffindir, yn ystod blwyddyn dramor. Enillodd Natalie Wobr Gyfansoddi 2022 CBCDC a dyfarnwyd Medal Arian The Musicians’ Company iddi. Mae hefyd yn hoff iawn o radio a chyflwyno, y gwnaeth ei ddarganfod drwy ei gwaith gyda Nat and Jake Show CBCDC a oedd yn dod â cherddoriaeth newydd i wrandawyr drwy gydol cyfnodau clo COVID.

Proffiliau staff eraill