Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Simon Phillippo

Rôl y swydd: Pennaeth Allweddellau

Adran: Piano

Anrhydeddau: MA, MPhil, PhD (Cantab)

Bywgraffiad Byr

Astudiodd Simon Phillippo yn yr Academi Gerdd Frenhinol a Gonville and Caius College, Caergrawnt. Mae wedi perfformio a darlledu’n helaeth ledled y Deyrnas Unedig a thramor, fel datgeiniad, unawdydd concerto a chyfeilydd. Ac yntau’n gerddor siambr neilltuol, mae Simon wastad wedi ymroi ei fywyd cerddorol i berfformio cydweithiol a rhyngddisgyblaethol ar y lefel uchaf, a thrwy ei yrfa cofleidiodd berfformio fel pianydd ac arweinydd. Bu Simon yn gyfeilydd, pianydd a meistr corws Opera Cenedlaethol Cymru am 14 mlynedd, ac mae wedi perfformio gyda cherddorfeydd a chwmnïau opera ym mhob rhan o’r byd. Y mae hefyd yn gyfeilydd lleisiol adnabyddus gan berfformio repertoire amrywiol gyda rhai o gantorion gorau’r byd.

Arbenigedd

Mae gan Simon angerdd at addysg cerddorion ifanc ac mae wedi addysgu mewn llawer o brifysgolion yn y Deyrnas Unedig. Mae wedi arwain yr Adran Allweddellau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ers 2015, gan greu cwrs chwyldroadol sy’n canolbwyntio ar geisio rhagoriaeth bianistig yn ogystal â chynnig hyfforddiant amrywiol ac ysgogol yn yr holl sgiliau cerddorol sydd eu hangen er mwyn ffynnu yn y proffesiwn heddiw. Mae Simon yn cyfuno ymroddiad oes i berfformio a phroffil ymchwil prysur; y mae ar waith â golygu gweithiau siambr Robert Simpson ar gyfer Ricordi, Berlin, ac mae’n cynnal astudiaeth helaeth o driawdau piano Haydn.

Cyflawniadau Nodedig

Yn ddiweddar, perfformiodd Simon yn y Royal Albert Hall a Cadogan Hall yn Llundain, Neuadd Dewis Sant yng Nghaerdydd, ac Eglwys Gadeiriol Tyddewi (Gŵyl Abergwaun). Fel arweinydd, mae wedi arwain cyngherddau gyda’r Royal Philharmonic Orchestra, cerddorfeydd Opera North ac Opera Cenedlaethol Cymru a Helios Orchestra, Llundain, ac mae wedi arwain dros 150 o berfformiadau opera ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru. Mae’n beirniadu’n rheolaidd mewn gwyliau a chystadlaethau piano gan gynnwys Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC a Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru yn 2021.

Proffiliau staff eraill