Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

John Anderson

Rôl y swydd: Tiwtor Obo

Adran: Chwythbrennau

Anrhydeddau: BA (Anrh), FRCM

Bywgraffiad Byr

Mae gan John Anderson dros 40 mlynedd o brofiad fel prif oböydd gydag ensembles mawr fel cerddorfeydd y BBC Symphony, Philharmonia, a’r Royal Philharmonic. Mae bellach yn brysur fel chwaraewr stiwdio yn recordio cerddoriaeth ar gyfer byd ffilm a theledu. Mae prosiectau diweddar wedi cynnwys The Dig a The Witches.

Arbenigedd

Bu’n Athro Obo yn y Coleg Cerdd Brenhinol ers 1995 ac yn ymwelydd cyson â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ers dros ugain mlynedd. Mae ei gyn-fyfyrwyr wedi mwynhau llwyddiant yn y wlad hon a thramor. Mae John wedi cynnal dosbarthiadau meistr yn y DU, Japan, Tsieina, Canada a Singapore. Fel unawdydd mae wedi recordio Concerto Strauss gyda’r BBC SO a’r Philharmonia ac wedi gwneud dwy fersiwn o Goncerto Mozart gyda’r Royal Philharmonic a’r English Chamber Orchestra. Mae hefyd wedi recordio concertos gan Martinů, Jean Françaix a Volkmar Andreae. Derbyniodd ganmoliaeth y beirniaid am ei albwm o goncertos baróc Fenisaidd, a chaiff yr albwm ei ddarlledu'n aml ledled y byd. Ar hyn o bryd mae ganddo 95 o draciau unigol wedi'u rhestru ar Spotify.

Mae John wedi ymddangos fel unawdydd yn Concerto Bach i’r Obo a’r Fiolín yn y wlad hon a thramor gyda Pinchas Zukerman, Maxim Vengerov a Nigel Kennedy. Fel chwaraewr cerddorfaol mae wedi cydweithio â llawer o arweinyddion, cyfansoddwyr ac unawdwyr gorau'r byd.

Proffiliau staff eraill