Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Sandy Bartai

Rôl y swydd: Tiwtor Soddgrwth

Adran: Llinynnau

Bywgraffiad Byr

Ganed Sandy Bartai yn Ynysoedd Shetland ac astudiodd yn y St. Mary’s Music School yng Nghaeredin ac yn y Royal Northern College of Music, a’i athrawon yno oedd Moray Welsh a Leonid Gorokhov.

Arbenigedd

Dechreuodd Sandy ar ei yrfa broffesiynol gyda Bournemouth Symphony Orchestra ac mae bellach yn aelod o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Gweithiodd gyda nifer o gerddorfeydd eraill gan gynnwys y London Symphony Orchestra a'r Philharmonia, ac mae wedi perfformio fel prif chwaraewr gwadd gyda’r RTE National Symphony Orchestra, y Royal Northern Sinfonia ac Orchestra of Opera North. Mae hefyd yn aelod o’r Bloomer Piano Quartet.

Mae gwaith Sandy yn cwmpasu ystod amrywiol o brosiectau cerddorol, gan gynnwys byrfyfyrio a chyfansoddi sgoriau ar gyfer ffilmiau mud gydag aelodau The Paper Cinema a The Cabinet of Living Cinema, a gwnaeth dri albwm fel aelod o'r band roc offerynnol The Pirate Ship Quintet.

Mae diddordeb Sandy mewn addysgu yn deillio o'i brofiad fel athro peripatetig i’r Wirral Schools’ Music Service, lle bu'n gweithio am ddeng mlynedd ar ddechrau ei yrfa. Fel rhan o'r elfen hon o'i waith, mae wedi addysgu myfyrwyr ar bob lefel, gan hyfforddi adrannau cerddorfaol yn aml yn ogystal ag asesu a chynnal clyweliadau.

Proffiliau staff eraill