Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Alex Thorndike

Rôl y swydd: Tiwtor Fiola

Adran: Llinynnau

Bywgraffiad Byr

Astudiodd Alex yn y Royal Northern College of Music gyda Nicholas Logie. Yn ystod ei amser yno, bu’n arwain yr holl gerddorfeydd, cymerodd ran mewn amryw ddosbarthiadau meistr ac enillodd wobrau Fiola Cecil Aronowitz a Rachel Godlee. Er iddo gael cynnig ysgoloriaeth i astudio yn yr Unol Daleithiau, penderfynodd Alex fwrw ymlaen â gyrfa gerddorfaol yn y Deyrnas Unedig. Cynigwyd swydd iddo ar unwaith yng ngherddorfa Halle lle’r arhosodd am ychydig flynyddoedd hyd nes iddo symud i’w swydd bresennol fel Prif Chwaraewr Fiola Cynorthwyol Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Arbenigedd

Yn ogystal ag addysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Alex yn Athro Fiola Arbenigol yn ysgol Wells Cathedral – un o bedair ysgol Gerddoriaeth arbenigol yn y Deyrnas Unedig. Braint iddo yw cael rhoi arweiniad i gymaint o gerddorion ifanc a’u helpu i wella. Mae Alex yn athro gofalgar a llwyddiannus, ac mae ganddo brofiad amlwg o gael y gorau o’i fyfyrwyr i gyd, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gweithio yn y proffesiwn cerddoriaeth heddiw. Mae addysgu yn foddhad ac yn ysgogiad iddo, ac mae’n ceisio creu amgylchedd lle mae’r myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn gallu mynegi eu barn a’u safbwyntiau cerddorol eu hunain.

Proffiliau staff eraill