Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Tianyi Lu

Rôl y swydd: Aelod y Bwrdd

Mae Tianyi Lu, a anwyd yn Tsieina ac sy’n hanu o Seland Newydd ac a raddiodd mewn arwain cerddorfaol yn CBCDC, yn gweithio gyda cherddorfeydd mawr a thai opera ledled y byd. Mae ei gwaith yn cael ei ysgogi gan ethos o rymuso, creu cysylltiad ac empathi ar draws amrywiol gymunedau drwy gerddoriaeth. 

Mae Tianyi Lu yn Arweinydd Preswyl gyda Cherddorfa Symffoni Stavanger yn Norwy ac yn Arweinydd Preswyl Benywaidd gydag Opera Cenedlaethol Cymru ac yn Brif Arweinydd Sinfonia St Woolos yn y DU. Yn ddiweddar, enillodd y wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Arweinwyr Rhyngwladol Syr Georg Solti ac mae hefyd yn llysgennad Artist Llysgenhadol Opera for Peace.

Proffiliau staff eraill